Bydd Olivia Breen yn cystadlu yn y 100 metr yn nosbarth T38 y prynhawn ma, ac mae hi’n gobeithio gwneud yn iawn am ei siom yn y naid hir ddydd Mawrth.

Gorffennodd y Gymraes yn bedwerydd bryd hynny, gan neidio 4.20 metr i orffen yn bedwerydd y tu allan i safleoedd y medalau, ond roedd y canlyniad yn un parchus iddi yn ei blwyddyn gyntaf yn cystadlu yn y gamp honno.

Mae hi lawer iawn mwy sicr o’i hun yn y 100 metr ac mi orffennodd hi gyda dwy fedal efydd yn y pencampwriaethau hyn yn yr Iseldiroedd yn 2012 ar ei hymgais gyntaf a hynny yn y 100 metr a’r 200 metr.

Hi oedd yr ail athletwraig ieuengaf i gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn yr un flwyddyn, ac mi orffennodd hi’n bumed yn y 100 metr ac wythfed yn y 200 metr, a sicrhau medal efydd yn y ras gyfnewid 4 x 100 metr.

Dywedodd hi wrth golwg360 ddydd Mawrth ei bod hi’n hapus gyda’i pherfformiad a’i bod hi’n edrych ymlaen at y 100 metr.