Mae’r Cymro Nathan Stephens wedi colli ei apêl yn erbyn penderfyniad y dyfarnwyr i ddiystyru ei dafliad hiraf yn y taflu gwaywffon yn nosbarth F57.

Mae’r penderfyniad yn golygu ei fod yn gorffen yn bedwerydd ac yn colli allan ar fedal yn Abertawe.

Dywedodd Stephens wrth golwg360 yn gynharach fod y dyfarnwyr wedi gwrthod dweud wrtho beth oedd pellter y tafliad annilys.

“Maen nhw’n dweud ’mod i’n codi fy ochr dde ond mae’n rhaid iddo fe godi gan fod gen i ddim bloc ar fy ochr chwith fel sydd gan y bois eraill gyda dwy goes.

“Maen nhw’n gallu tynnu, blocio a stopio’r ochr dde rhag dod i fyny … mae’r rheolau yn dweud eich bod chi’n iawn os yw canol asgwrn y cefn ar y sedd, fel mae fy un i bob amser.”