Gorffennodd Marcel Hug o’r Swistir yn drydydd yn y ras 400 metr yn nosbarth T54 yn Abertawe y prynhawn ma.

Roedd yn un o’r ffefrynnau ar gyfer y ras, yn enwedig ers i David Weir dynnu allan o’r Pencampwriaethau ddechrau’r wythnos.

Ond doedd gorffen y ras mewn 49.39 eiliad ddim yn ddigon i gipio mwy na medal efydd, wrth i Marc Schuh o’r Almaen orffen yn ail (48.80 eiliad) a’r fedal aur yn mynd i Kenny van Weeghel o’r Iseldiroedd, orffennodd y ras mewn 48.35 eiliad.

Ar ddiwedd y ras, dywedodd Marcel Hug wrth golwg360: “Dw i ddim yn hapus gyda’r ras. Ro’n i’n iawn ar adegau ond yn araf ar adegau hefyd.

“Roedd gyda fi gyhyrau oer a wnes i ddim cadw’r tymheredd yn ddigon uchel.

“Dyma’r tro cyntaf i fi rasio yma hefyd, felly ro’n i falle ychydig yn nerfus ond dw i’n edrych ymlaen nawr at y 1500 metr.”

Ond dywedodd Hug nad oedd yr elfennau wedi effeithio ar ei berfformiad.

“Roedd yr amodau’n iawn – ychydig o wynt ond ddim gormod.”

Bydd Hug yn rasio yn y 1500 metr yn ddiweddarach heddiw.