Byddai capten ac is-gapten newydd y Scarlets yn fodlon “marw dros y crys” cymaint yw eu hangerdd dros eu rhanbarth genedigol, yn ôl y prif hyfforddwr Wayne Pivac.
Fe gadarnhaodd y Scarlets heddiw mai’r bachwr Ken Owens fydd yn gapten ar dîm y rhanbarth y tymor hwn, ar ôl ymadawiad Jonathan Davies.
Davies a’r chwaraewr rheng-ôl, Rob McCusker, oedd yn rhannu’r cyfrifoldeb y tymor diwethaf, ond fe fydd Owens nawr yn arwain y tîm allan ym Mharc y Scarlets eleni gyda’r canolwr Scott Williams yn is-gapten.
Mae Owens wedi chwarae 158 gwaith dros y rhanbarth ers ymddangos am y tro cyntaf yn nhymor 2009/10, ac mae’r gŵr 27 oed hefyd wedi ennill 26 o gapiau dros Gymru.
‘Arwain drwy esiampl’
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, ei fod yn awyddus i ddewis capten ac is-gapten oedd â chyswllt agos gyda’r rhanbarth a’r ardal – mae Owens o Gaerfyrddin a Williams o Gastell Newydd Emlyn.
“Mae parch mawr tuag at Ken ar draws y grŵp hyfforddi a chwarae ac mae’n ddyn ifanc aeddfed sydd â phopeth sydd ei angen ar arweinydd da,” meddai Wayne Pivac.
“Yn ystod y cyfnod byr rydw i wedi bod yma gyda’r Scarlets mae wedi sefyll allan i mi o ran sbarduno’r grŵp a dod ag elfennau’r garfan ehangach ynghyd.
“Bydd Ken a Scott, fe capten ac is-gapten, yn chwarae rôl bwysig iawn yn y garfan ac mae’r ddau, rwy’n teimlo, yn cynrychioli rygbi’r Scarlets a’n rhanbarth – ein pobl.
“Rydym yn rhan o gymuned rygbi angerddol a ffyddlon a rygbi yw popeth. Rwy’n gredwr mawr ym mechgyn lleol yn cario’r tîm ymlaen.
“Mae’r ddau ddyn ifanc yma’n dod o galon y rhanbarth ac fe fyddwn nhw’n marw dros y crys ac arwain drwy esiampl.”
Syndod i Scott
Wrth gyhoeddi’r newyddion fe dalodd Ken Owens deyrnged i gapteiniaid Scarlets y gorffennol, gan gynnwys y cyn-brif hyfforddwr Simon Easterby.
Ond dywedodd nad oedd yn siŵr eto pa fath o arddull fyddai ar ei gapteiniaeth ef.
“Mae pob capten yn wahanol, bydd yn rhaid i mi weld sut mae pethau’n datblygu,” meddai Owens. “Fe wnâi geisio arwain o’r tu blaen sydd yn rhywbeth fi wastad wedi ceisio gwneud fel chwaraewr.”
Fe gyfaddefodd Scott Williams ei fod wedi dod yn ychydig o syndod pan ddewiswyd ef i fod yn is-gapten, ac yntau ond yn 23 oed.
“Mae’n fraint o’r mwyaf i gael fy enwi’n is-gapten er ei fod ychydig yn annisgwyl ond fe wnâi gydio yn y cyfle gyda dwy law,” meddai canolwr Cymru.
“Fi ddim yn teimlo’n 23, o ran profiad fi’n teimlo mod i wedi cael eitha’ tipyn yn fy ngyrfa fer felly gobeithio gallai ddod a’r profiad yna a phasio fe mlaen i’r bois eraill.”