Mae Nathan Stephens, wnaeth orffen yn bedwerydd yn y taflu gwaywffon yn nosbarth F57, wedi cadarnhau ei fod e wedi apelio yn erbyn y canlyniad.

Cafodd un o dafliadau Stephens ei ddiddymu’r prynhawn ma, ond fe allai gwyrdroi’r penderfyniad olygu ei fod e’n ennill y fedal efydd – o leiaf – wedi’r cyfan.

Dywedodd Stephens wrth golwg360 fod y dyfarnwyr wedi gwrthod dweud wrtho beth oedd pellter y tafliad annilys.

Roedd tafliad hiraf Stephens – 30.73 metr – yn ddigon i’w roi yn y pedwerydd safle.

Dywedodd: “Ry’n ni wedi protestio’r penderfyniad felly ry’n ni’n aros i glywed nawr a fyddan nhw’n ail-ystyried y tafliad.

“Ro’n i’n siomedig gan bo fi’n ail ymhlith y detholion, ond wrth integreiddio F57 ac F58 bydd yr F57  bob amser yn cael amser anodd gyda’r F58 i dynnu ac addasu gyda’u dwy goes. Dwi wedi colli fy nwy goes a dyna ni.

“Maen nhw’n dweud mod i’n codi fy ochr dde ond mae’n rhaid iddo fe godi gan fod gen i ddim bloc ar fy ochr chwith fel sydd gan y bois eraill gyda dwy goes.

“Maen nhw’n gallu tynnu, blocio a stopio’r ochr dde rhag dod i fyny … mae’r rheolau yn dweud eich bod chi’n iawn os yw canol asgwrn y cefn ar y sedd, fel mae fy un i bob amser.

“Yn nwylo’r swyddogion mae e nawr – bydd rhaid i ni aros i weld.”