Federico Fernandez (llun: CPD Abertawe)
Mae Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r amddiffynwr canol Federico Fernandez o Napoli.

Roedd Fernandez yn rhan o dîm yr Ariannin a gyrhaeddodd ffeinal Cwpan y Byd eleni cyn colli i’r Almaen.

Fe basiodd y cefnwr 25 oed brawf meddygol ddoe ac mae wedi arwyddo cytundeb gyda’r clwb am bedair mlynedd.

Dyw Abertawe heb gadarnhau faint maen nhw wedi talu Napoli am yr amddiffynwr, fydd yn gwisgo rhif 33, ond mae adroddiadau’n awgrymu fod y ffi tua £7m.

Gallai Fernandez gystadlu’n syth gydag Ashley Williams, Jordi Amat a Kyle Bartley i ddechrau’r gêm yn erbyn Burnley yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Fe ddechreuodd Fernandez ei yrfa gydag Estudiantes yn ei wlad enedigol cyn symud i Napoli yn 2011, ac mae hefyd wedi treulio cyfnod ar fenthyg gyda Getafe.

Fe fethodd y ddwy gêm i Napoli’r tymor diwethaf pan chwaraeon nhw Abertawe yng Nghynghrair Ewropa.

Hon yw’r ail waith i chwaraewr symud rhwng y ddau glwb yr haf hwn, wedi i Napoli arwyddo’r ymosodwr Michu ar fenthyg o Abertawe am dymor.