Tim pel-droed merched Cymru (Llun: Cymdeithas Bel-droed Cymru/Propaganda)
Mae rheolwr tîm merched Cymru, Jarmo Matikainen, wedi mynnu fod ei dîm mewn “safle gwych” wrth iddyn nhw baratoi i herio Lloegr mewn gêm ragbrofol allweddol.
Mae’n rhaid i Gymru drechu’r hen elyn nos fory os am unrhyw siawns o ennill y grŵp a chyrraedd Cwpan y Byd yng Nghanada y flwyddyn nesaf.
Fe allai’r tîm gyrraedd Canada 2015 drwy’r gemau ail gyfle petaen nhw’n gorffen yn ail, ond dim ond os ydyn nhw’n ennill digon o bwyntiau.
Bydd enillwyr y saith grŵp rhagbrofol Ewropeaidd yn cyrraedd Cwpan y Byd, ac fe fydd y pedwar tîm gorau sydd yn gorffen yn ail yn eu grŵp yn chwarae’i gilydd am y safle ola’.
‘Safle gwych’
Er bod hynny’n golygu y bydd yn rhaid i Gymru mwy na thebyg gael canlyniad yn erbyn Lloegr ac yna curo’r Wcráin oddi cartre’ fis Medi, mae’r rheolwr yn dweud mai dyna’r safle gorau i fod ynddo.
“Rydan ni mewn sefyllfa ble mae ganddon ni ddwy gêm ar ôl o’r ymgyrch ac mae popeth yn bosib,” esboniodd Jarmo Matikainen.
“Dyna lle rydan ni eisiau bod, dyna ble mae’r chwaraewyr eisiau bod, a dyna ble mae pêl-droed Cymru eisiau bod – mae’n safle gwych!”
Fe all Cymru fod yn falch o hyd yn oed fod yn y sefyllfa yma – ar hyn o bryd maen nhw bum pwynt y tu ôl i Loegr yn y grŵp ond chwech o flaen yr Wcráin sydd yn drydydd, a hynny er mai Cymru oedd y pedwerydd detholiad pan ddewiswyd y grŵp, y tu ôl i Loegr, yr Wcráin a Belarws.
Aros tan ddiwedd yr ymgyrch
Fe gadarnhaodd Matikainen y bydd yn aros fel rheolwr ar y tîm cenedlaethol ar gyfer Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf os ydyn nhw’n cyrraedd.
Mae’r gŵr o’r Ffindir, y rheolwr llawn amser cyntaf ar dîm pêl-droed merched rhyngwladol Cymru, eisoes wedi dweud y bydd yn gadael ei swydd ar ddiwedd yr ymgyrch hon.
Ond yn gyntaf, mae’n canolbwyntio ar yr her fawr i ddod yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos yfory.
“Mae wastad yn gêm fawr yn erbyn Lloegr, yn enwedig yn yr ymgyrch yma, ond rydyn ni jyst yn edrych arni fel gêm ragbrofol arall.
“Rydym ni’n canolbwyntio ar y ddwy gêm nesaf, ac fe fydd unrhyw beth ar ôl hynny’n fonws.
“Mae’n rhaid i ni feiddio breuddwydio,” ychwanegodd.
Fe groesawodd y ffaith fod capten a seren Cymru, Jess Fishlock, hefyd yn ei hôl yn y garfan ar ôl iddi fethu’r gêm gyfeillgar ddiweddar yn erbyn yr Alban.
“Mae hi’n gapten gwych ac mae’n grêt ei chael hi yn ôl,” meddai Matikainen.
Bydd y gic gyntaf rhwng Cymru a Lloegr yn Stadiwm Dinas Caerdydd yfory am 7.05yh.