Fe fydd gan Nathan Stephens o Fynydd Cynffig bwynt i’w brofi pan fydd e’n cystadlu yng nghystadleuaeth F57 taflu’r gwaywffon ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC yn Abertawe y bore ma.
Yn y gorffennol, fe fu Stephens, sy’n 26 oed ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn cystadlu yn nosbarth F58 ond mae newid yn y rheolau’n golygu bod F57 ac F58 wedi cael eu cyfuno.
Bellach, does gan gystadleuwyr ddim hawl i roi eu traed ar y llawr i daflu’r gwaywffon.
Fe fu’n rhaid i Stephens newid ei arddull ar gyfer y dosbarth newydd, ac mae’r Cymro bellach yn dibynnu ar gryfder ei ysgwyddau heb i’w draed gyffwrdd â’r llawr.
Bydd Stephens yn ysu am fedal yn Abertawe er mwyn gallu cyrraedd uchelfannau’r gamp unwaith eto.
Mae’r Pencampwriaethau, i raddau helaeth, yn ffon fesur i Stephens weld lle mae e arni gyda’r arddull newydd ac fe fydd e’n cystadlu yn erbyn un o gystadleuwyr cryfa’r byd – y Rwsiad 6 troedfedd 8 modfedd, Alexei Kuznetsov, enillydd y fedal arian yng Ngemau Paralympaidd Llundain gyda thafliad o 27.87 metr.
Llundain 2012
Er gwaetha’r ffaith fod yr arbenigwyr wedi’i enwi fel un o’r ffefrynnau i gipio medal, cafodd Stephens siom enfawr yn Llundain.
Ar y pryd, roedd Stephens yn ddeilydd record y byd ac yn bencampwr y byd ac roedd e eisoes wedi creu argraff fel pencampwr ieuenctid y byd yn y ddisgen, y siot a’r gwaywffon.
Ond wnaeth e ddim cyrraedd y rownd derfynol y gwaywffon yn Llundain yn dilyn dau dafliad annilys a thafliad gwan ar ei ymgais olaf.
Roedd y tafliadau’n annilys oherwydd bod ei droed wedi gadael y llawr – er na chafodd ei gosbi am yr un arddull ym Mhencampwriaethau’r Byd flwyddyn ynghynt. Bryd hynny, roedd yr arddull yn cael ei ganiatáu.
Yn wir, enillodd Stephens y fedal aur ym Mhencampwriaethau’r Byd wedi iddo daflu’n bellach nag erioed – 39.11 metr.
Ond yn Llundain, roedd Stephens wedi dadlau fod ei arddull yn dderbyniol gan nad oedd e wedi codi’n llwyr o’r sedd.
Campau eraill Stephens
Mae Stephens yn amryddawn ym myd y campau, wedi iddo droi at y maes athletau o fyd hoci sled.
Roedd yn aelod o dîm hoci sled Prydain yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn Torino yn 2006, penllanw wyth mlynedd o gystadlu yn y gamp.
Pan fethodd tîm Prydain â chyrraedd Gemau Paralympaidd Sochi, cafodd Stephens waith fel un o sylwebyddion C4.
Bydd Nathan Stephens yn cystadlu am 11.15 y bore ma.