Golwg360 sydd yn dod a’r diweddaraf o Bencampwriaeth yr IPC yn Abertawe, gan gynnwys hynt a helynt y Cymry.
*Para-athletwyr o bob cwr o Ewrop yn cystadlu
*Nathan Stephens yn bedwerydd yn y taflu gwaywffon F57
*Stephens wedi apelio’n aflwyddiannus yn erbyn y canlyniad
*Olivia Breen yn ennill efydd yn y 100m T37
*Arian i Kyron Duke yn F41 y gwaywffon
20.20: Mae Kyron Duke wedi ymateb i’w fedal arian, gan ddweud ei fod yn “falch” ond hefyd ychydig yn siomedig gan ei fod wedi taflu’n bellach wrth ymarfer – y stori lawn yma.
20.16: MEDAL ARIAN I BRYDAIN!
Llongyfarchiadau i Kyron Duke, sydd wedi gorffen yn ail yn ffeinal taflu gwaywffon F41 y dynion!
Roedd ei dafliad o 36.70m yn ddigon i gipio’r fedal arian, gyda Mathias Mester o’r Almaen yn ennill gyda phellter o 38.69m.
17.09: Llongyfarchiadau i Olivia Breen felly am ddod yn drydydd yn y ffeinal, y cyntaf o’r Cymry i gipio medal heddiw, ac i Sophie Hahn ddaeth yn ail.
Mae hi wedi bod yn brynhawn da i’r Prydeinwyr ar y trac, gyda Maria Lyle yn ennill 100m T35 y merched yn gynharach a Mickey Bushell yn gwneud yr un peth yn 100m T53 y dynion.
Un Cymro ar ôl i gystadlu, sef Kyron Duke, ac fe fydd ef yn ffeinal y taflu gwaywffon F41 i ddynion toc ar ôl chwech o’r gloch.
17.03: MEDAL EFYDD I BRYDAIN!
Olivia Breen wedi cipio medal efydd i Brydain yn ffeinal T37 y merched mewn amser o 13.96 eiliad!
Margarita Goncharova o Rwsia groesodd y linell gyntaf mewn 13.44 eiliad, gyda Sophie Hahn o Brydain yn ail mewn 13.72 eiliad.
16.52: Mewn llai na deng munud fe fydd Olivia Breen yn rhedeg yn ffeinal 100m T37 y merched.
16.14: Mwy am ganlyniad Marcel Hug i chi hefyd, a orffennodd yn drydydd yn y ras 400m T54. Fe gofiwch chi fod David Weir wedi tynnu allan ddechrau’r wythnos – Hug oedd y ffefryn ers hynny ond wedi rasio “gyda chyhyrau orau”, meddai Hug.
Y Ffrancwr Julien Casoli, wnaeth ddweud ei fod ef hefyd yn un o’r ffefrynnau, wedi gorffen yn olaf!
16.10: Newyddion yn torri o Abertawe, ac yn ôl ein gohebydd Alun Chivers mae Nathan Stephens wedi colli ei apêl dros ganlyniad ffeinal y taflu gwaywffon F57. Mwy i ddilyn ar hyn.
16.01: Rhagor o newyddion o Abertawe i chi – mae Libby Clegg bellach wedi gorfod tynnu nôl o’i chystadleuaeth 100m T12 hi oherwydd salwch.
Roedd yr Albanes yn aros i weld a oedd ei amser hi yn y rhagras gynderfynol yn ddigon cyflym i gyrraedd y ffeinal, ond mae ei chystadleuaeth hi nawr ar ben.
Sioc hefyd yn ffeinal 400m T54 y dynion wrth i’r ffefryn Marcel Hug o’r Swistir ddim ond llwyddo i orffen yn drydydd mewn 49.39 eiliad, dros eiliad yn arafach na’r enillydd Kenny van Weeghel o’r Iseldiroedd.
15.28: Dim mwy i’w adrodd ar hyn o bryd am apêl Nathan Stephens – y Cymro’n credu fod un o’i dafliadau a gafodd ei gofnodi yn annilys wedi mynd ddigon pell i ennill medal, ac nad oedd ei ddull o daflu’r waywffon wedi torri’r rheolau.
Mae yna saib arall o’r cystadlu ar ddechrau’r prynhawn, ac felly mae’n eithaf tawel draw yn Abertawe ar hyn o bryd fel arall.
Pwt arall o newyddion i chi, fodd bynnag, yw bod Michael McKillop o Weriniaeth Iwerddon wedi ennill medal aur yn ras 800m T38 y dynion – ail fedal aur y Gwyddelod ar ôl llwyddiant Jason Smyth ddoe.
Mae’r ddwy fedal honno’n gosod Gweriniaeth Iwerddon yn 12fed yn y tabl medalau, gyda Rwsia’n arwain y ffordd ar 24 medal, deg ohonynt yn aur, a thîm Prydain yn ail gydag 20 medal gan gynnwys pump aur.
13.48: Mae’n ymddangos hefyd fod Stephens yn anhapus â’r rheolau sydd yn ôl ef yn rhoi mantais i gystadleuwyr eraill.
Dywedodd y Cymro fod y dosbarth F57 o dan anfantais yn erbyn athletwyr F58, sydd yn gallu pwyso ar un goes wrth daflu ac felly sefydlogi’n fwy na’r rhai sydd wedi colli dwy goes, fel Stephens ei hun.
13.39: Datblygiad diddorol yng nghystadleuaeth Nathan Stephens – mae’r Cymro wedi apelio yn erbyn penderfyniad am dafliad annilys, yn ôl ein gohebydd Alun Chivers.
Yn ôl Stephens byddai gwyrdroi’r penderfyniad yn sicrhau o leiaf medal efydd iddo, ond does dim cadarnhad o bellter y tafliad eto.
Roedd pob un o chwe thafliad Stephens yn ddilys heblaw am ei ail, felly gallwn gymryd mai at hwnnw mae’r athletwr yn cyfeirio pan mae’n dweud y dylai tafliad annilys fod wedi cyfrif.
12.52: Musa Davlucu o Dwrci’n gorffen yn chweched, sy’n golygu mai pedwerydd yn anffodus gafodd Nathan Stephens.
Fe gawn ni fwy o ymateb gan ein gohebydd Alun Chivers, sydd yno yn Abertawe, nes ymlaen:
Siom i Nathan Stephens yn y taflu gwaywffon yn @IPCAthletics yn Abertawe. Dim medal i’r Cymro. Rhagor o ymateb nes mlaen gobeithio
— Alun Rhys Chivers (@alun_rhys) August 20, 2014
12.45: Siom i Nathan Stephens wrth iddo lithro allan o safleoedd y medalau, a hynny ar ôl i Allahverdiyev daflu pellter o 32.48m.
12.27: Y rheswm am ffurf wahanol y gystadleuaeth hon, yn ôl gohebydd golwg360 Alun Chivers, yw oherwydd bod y cystadleuwyr F57, sydd ag anableddau’n effeithio ar eu coesau, yn cymryd amser i osod eu hunain cyn dechrau taflu.
Mae’n golygu’i bod hi’n haws i’r cystadleuwyr wneud eu chwe tafliad ar unwaith, yn hytrach na mynd fesul un gyda phawb ond yn taflu unwaith.
Mae’r gystadleuaeth hefyd yn araf heddiw oherwydd seremoniau medalau eraill, ond mae Jaroslav Petrus o’r Weriniaeth Tsiec a Julius Hutka o Slofacia nawr wedi cwblhau eu tafliadau nhw, â’r un ohonynt wedi llwyddo i fynd yn bellach na Nathan Stephens.
Mae Stephens yn aros yn drydydd felly, gydag ond Musav Davulcu o Dwrci ac Allahverdi Allahverdiyev o Azebaijan i ddod.
12.01: Mae ffurf y ffeinal taflu gwaywffon yma ychydig yn wahanol i gystadlaethau tebyg, ble mae’r athletwyr yn cymryd eu tro fesul un i daflu, ac yna’n mynd eto.
Yn hytrach, gyda hon mae’r athletwyr yn taflu eu chwech tro nhw ar unwaith, cyn aros i bawb arall wneud yr un peth.
Mae Nathan Stephens nawr wedi taflu ei chwech ef, ac mae ei bellter hiraf ef o 30.73m yn ei osod yn drydydd y tu ôl i Alexey Ashapatov o Rwsia (34.19m) ac Angim Dimitrios Ntomgkioni o Roeg (31.87m).
Pedwar cystadleuydd arall i ddod, fodd bynnag, felly fe all Stephens dal lithro o safle’r medalau.
11.18: Mae ffeinal taflu gwaywffon F57 Nathan Stevens newydd gychwyn, ac mae’n un o saith cystadleuydd fydd yn gobeithio bod ar y podiwm ar y diwedd.
Mae tîm Prydain hefyd wedi cipio medal aur arall y bore yma, wrth i Erin McBride orffen yn gyntaf yn y ras 100m T13 i ferched.
10.35: Un athletwr o Gymru fydd yn cystadlu’r bore yma yw Nathan Stevens, sydd yn ffeinal y taflu gwaywffon F57.
Roedd yn arfer cystadlu o dan gategori F58, ond mae newid yn y rheolau nawr wedi golygu’i fod wedi gorfod addasu’i steil taflu.
Fe effeithiodd y newid hwnnw ar ei berfformiad yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012, ond mae nawr yn barod i brofi pwynt – mwy gan ohebydd golwg360 yn Abertawe, Alun Chivers.
10.09: Roedd ddoe yn ddiwrnod da i’r Cymry, sydd yn cystadlu fel rhan o dîm Prydain yn y pencampwriaethau yma, wrth i bedwar allan o’r saith athletwr gipio medalau efydd a phob un ohonynt mewn rasys 100m.
Laura Sugar oedd y cyntaf gan gipio trydydd yn y ras 100m T44 i ferched, cyn i Jordan Howe wneud yr un peth yng nghategori T35 y dynion.
Rhys Jones oedd y nesaf i groesi’r linell yn drydydd yn y 100m T37 i ddynion, ac fe orffennodd diwrnod y Cymry gyda Bradley Wigley yn dod yn drydydd yn y ras T38.
Gallwch ddilyn y dolenni uchod i ddarllen mwy am rasys y pedwar, a gallwch hefyd ddarllen mwy am ddigwyddiadau eraill y diwrnod cyntaf o gystadlu ar flog byw ddoe.
10.00: Bore da a chroeso i flog byw golwg360 unwaith eto o Bencampwriaeth para-athletau yr IPC sydd yn cael eu cynnal yn Abertawe yr wythnos hon.
Heddiw yw’r ail ddiwrnod o gystadlu, ac fe fydd tri o Gymry’n gobeithio am lwyddiant yn ffeinalau eu cystadlaethau nhw yn nes ymlaen.
Fe brofodd pedwar o’r Cymry lwyddiant ar y diwrnod agoriadol ddoe, gyda Bradley Wigley, Rhys Jones, Jordan Howe a Laura Sugar i gyd yn cipio medalau efydd.