Mae’r bara-athletwraig o Gymru, Olivia Breen wedi ennill medal aur yn y naid hir yng nghategori T38 yng Ngemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia.

Dyma drydedd medal aur Cymru yn y Gemau yn dilyn llwyddiant y codwr pwysau Gareth Evans a’r seiclwraig Elinor Barker.

Gosododd hi record newydd ar gyfer Gemau’r Gymanwlad gyda naid o 4.56m yn y drydedd rownd cyn ymestyn ei record wedyn i 4.86m, sydd hefyd yn record bersonol yn ei gyrfa.

Roedd ganddi hanner metr o flaenoriaeth dros yr Awstralia, Erin Cleaver oedd wedi gorffen yn yr ail safle.

Ar ddiwedd y ras, dywedodd ei bod hi “wedi gwireddu breuddwyd”, gan ychwanegu ei phleser o gael y Ddraig Goch o’i chwmpas a’r cyffro o aros i glywed ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ pan fydd hi’n derbyn ei medal.

Cyn y Gemau, dywedodd wrth golwg360: “Er na ches i fy magu yng Nghymru, dw i wastad wedi treulio llawer o fy amser yno, enwedig amser gwyliau’r ysgol,” meddai Olivia Breen, “a dw i wrth fy modd yn mynd  i weld fy nheulu yno.

“Dw i mor falch o gael gwisgo’r crys coch.”

Medalau Cymru

Mae Cymru bellach wedi ennill wyth o fedalau, ac maen nhw wedi sicrhau bod tair arall ar eu ffordd.

Roedd medal efydd hefyd i Bethan Davies yn y ras gerdded 20km.

Cipiodd Laura Daniels fedal arian yn senglau’r bowls ar ôl colli yn y ffeinal, ac roedd medal efydd i Laura Hughes yn y codi pwysau 75kg, sy’n golygu bod Cymru bellach wedi ennill deg o fedalau.