Cei Connah 6–1 Bangor
Mae Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru ar ôl chwalu Bangor yn y rownd gynderfynol ar Belle Vue, Y Rhyl nos Sadwrn.
Sgoriodd y Nomadiaid dair gôl ym mhob hanner, gan gynnwys hatric i Andy Owens mewn buddugoliaeth hynod gyfforddus.
Peniodd Owens ei dîm ar y blaen wedi 28 munud wedi gwaith da Ryan Wignall ar y chwith.
Wignall ei hunan a ddyblodd y fantais chwe munud yn ddiweddarach, yn gorffen yn daclus wedi sodliad deheuig Michael Bakare i’w lwybr.
Trodd y crëwr y sgoriwr unwaith eto ychydig funudau’n ddiweddarach wrth i Bakare sgorio wedi i Owens benio cic hir John Danby i’w lwybr.
Os nad oedd y gêm ar ben yn barod, roedd hi tu hwnt i unrhyw amheuaeth ar yr awr wedi i Owens gwblhau ei hatric gyda dwy gôl debyg, dwy ergyd droed chwith gadarn o ddeunaw llath yn curo Matthew Hall i’w chwith.
Roedd gôl gysur i Fangor wedi hynny wrth i George Harry sgorio o’r smotyn ond Cei Connah a gafodd y gair olaf gyda Nathan Woolfe yn gorffen yn daclus yn y cwrt cosbi i gwblhau’r grasfa.
Bydd Cei Connah yn wynebu Aberystwyth neu’r Drenewydd yn y rownd derfynol y mis nesaf, gyda’r ddau dîm o’r canolbarth i wynebu ei gilydd ar Faes Tegid, Y Bala, brynhawn Sul.
.
Cei Connah
Tîm: Danby, Pearson, Edwards, Spittle, Wignall (Woolfe 73’), Morris, Owens, Poole (Philips 83’), Smith, Hughes (Harrison 64’), Bakare
Goliau: Owens 28’, 56’, 60’ Wignall 34’, Bakare 37’, Woolfe 77’
.
Bangor
Tîm: Hall, Kennedy, Wall, Taylor-Fletcher (Jones 63’), Rittenberg, Holmes, Gosset, Bembo-Leta, Wilson, Hewitt (Thomas 72’), Williams (Harry 45’)
Gôl: Harry [c.o.s] 76’
Cerdyn Melyn: Wilson 43’
.
Torf: 398