Ail fedal yr wythnos i Laura Sugar yn Grosseto
Roedd llwyddiant i ddwy bara-athletwraig o Gymru ar ddiwrnod olaf Pencampwriaethau Ewropeaidd yr IPC yn Grosseto yn yr Eidal ddydd Iau.
Enillodd Laura Sugar fedal arian yn y ras 100 metr yng nghategori T44, gan orffen y ras mewn 13.70 eiliad, dim ond 0.10 eiliad oddi ar safle’r fedal aur.
Irmgard Bensusan o’r Almaen gipiodd yr aur gan orffen mewn 13.60 eiliad, wrth i Abassia Rahmani o’r Swistir ennill y fedal efydd gan orffen mewn 14.78 eiliad.
Hon yw ail fedal Laura Sugar yr wythnos hon, ar ôl iddi ennill y fedal efydd yn y ras 100 metr ddydd Llun.
Ddwy flynedd yn ôl ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC, enillodd hi ddwy fedal efydd.
Medal aur a record byd
Yn y cyfamser, roedd Olivia Breen yn aelod o dîm ras gyfnewid 4×100 metr merched Prydain a dorrodd y record byd yng nghategori T35-38.
Sophie Hahn, Georgie Hermitage a Maria Lyle oedd aelodau eraill y tîm.
Cwlbhaodd y merched y ras mewn 51.63 eiliad, gan guro Rwsia (53.17), ac Olivia Breen redodd gymal cynta’r ras.
Medalau’r Cymry
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, mae’r Cymry wedi ennill saith allan o 56 o fedalau Prydain – tair medal aur (dwy i Aled Siôn Davies ac un i Olivia Breen), un fedal arian (Laura Sugar), a thair medal efydd (dwy i Jordan Howe ac un i Laura Sugar).
Aur – Aled Siôn Davies (disgen F42, siot F42), Olivia Breen (ras gyfnewid 4x100m T35-38)
Arian – Laura Sugar (100m T44)
Efydd – Jordan Howe (100m, 200m T35), Laura Sugar (200m T44)