Er bod colli o 2-1 yn erbyn Lloegr wedi bod yn “dorcalon”, roedd cefnogwyr Cymru yn dal i ganu drwy gydol y gêm, yn ôl un a gafodd sedd flaen i’r gêm yn Lens.
Yn ôl un o ohebwyr golwg360, Iolo Cheung, aeth yr awyrgylch ymhlith cefnogwyr carfan Chris Coleman braidd yn “fflat” ar ôl i’r Saeson lwyddo i sgorio gôl yn ystod amser ychwanegol y gêm.
“Ond, fe wnaeth pobol ddechrau canu eto’n syth, i geisio codi hwyliau unwaith eto, fel oedden nhw wedi bod yn gwneud trwy’r gêm. Chwarae teg, fe wnaeth cefnogwyr Cymru ganu trwyddo’r gêm i gyd,” meddai.
Be nesa’
Roedd pawb wedi dechrau meddwl yn syth beth sydd ei angen bellach, meddai Iolo Cheung.
“Sneb yn licio colli, yn enwedig i’r gelynion pennaf. Dw i’n meddwl bod angen bach o amser i eistedd lawr a meddwl beth mae hynny’n ei olygu o ran y gystadleuaeth.
“Bydd Cymru’n sicr â lle yn y rowndiau cynderfynol os bydd yn ennill yn erbyn Rwsia ddydd Llun, a bydd gobaith o hyd os bydd hi’n gêm gyfartal.
“Roedd gorfoledd ymysg y Cymry yn dilyn gôl Gareth Bale ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ond erbyn yr ail hanner, fe wnaeth newidiadau yn nhîm Lloegr, ei helpu i ennill yn y diwedd.
Cymru’n “rhy amddiffynnol”
Dywedodd Iolo Cheung ei fod wedi gweld Cymru’n chwarae’n well yn y gorffennol, a’i bod wedi bod “bach yn rhy amddiffynnol.”
“Wnaethon nhw ildio cymaint o gyfleoedd, oedd un yn bownd o fynd i mewn yn y diwedd,” meddai.
“Oedd Lloegr jyst yn ymosod ac yn ymosod, oedd gennyf i deimlad bod nhw’n mynd i gael rhywbeth, o’n i jyst yn gobeithio bod hynny ddim yn dod i’r munud olaf, ond mi wnaeth o.”
Mae Iolo fodd bynnag yn “dawel hyderus” y bydd Cymru’n cael llwyddiant yn erbyn Rwsia, ar ôl i’r tîm golli yn erbyn Slofacia ddoe.