A fydd pennod hapus? Clawr llyfr Dylan Ebenezer a'r Lolfa am y gystadleuaeth
Fe allai dyfodol Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016 fod yn nwylo Lloegr.

Mae Cymru angen o leia’ gêm gyfartal yn erbyn Rwsia ddydd Llun i gael cyfle da i fynd trwodd i rowndiau’r 16 ola’.

Ond pe baen nhw’n cael hynny a Lloegr yn ennill neu gael gêm gyfartal yn erbyn Slofacia, fe fydden nhw’n hollol sicr.

Fel arall, fe fydd rhaid i Gymru gael y tri phwynt o’u gêm ola’.

“Ymlaen am Rwsia” meddai Carwyn Jones

Dyna beth o’r mathemateg wrth i gefnogwyr Cymru ddod i delerau â cholli yn y munudau ola’ yn erbyn Lloegr.

Ac roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ymhlith y cynta’ i drydar wedi’r gêm gan ddweud bod cyfle da o hyd i fynd trwodd i’r cam nesa’.

“Chwarae’n dda ond anlwcus” oedd ei ddyfarniad mewn neges Saesneg ar ffrwd trydar Cymdeithas Bêl-droed Cymru.