Siom i reolwr Cymru, Chris Coleman (Joe Giddens/PA)
Fe lwyddodd Lloegr i ennill mewn amser ychwanegol a rhoi’r pwysau ar Gymru i guro Rwsia i gyrraedd rownd 16 ola’ Ewro 16.
Fe lwyddodd dau eilydd y Saeson i sgorio yn yr ail hanner wedi i Gymru fynd i mewn ar y blaen.
Fe ddaeth Lloegr yn gyfartal ar ôl deng munud o’r ail hanner trwy’r eilydd Jamie Vardy ac fe sgoriodd Daniel Sturridge wedi 90 munud.
Roedd Cymru wedi amddiffyn yn angerddol am yr ail hanner ar ei hyd.
Newidiadau’n gweithio
Roedd yna fywyd newydd yn nhîm y Saeson wrth iddyn nhw ailddechrau ar ei hôl hi gyda Vardy a Sturridge ar y cae yn lle Sterling a Kane.
Pan ddaeth y gol gynta’, roedd Cymru’n hawlio fod y blaenwr yn camsefyll ond roedd y bêl wedi cyffwrdd yn Ashley Williams are i ffordd ato.
Roedd hynny ar ôl 55 munud ac fe fu Cymru dan bwysau am weddill yr hanner, cyn i’r ymosod ddweud mewn amser ychwanegol a Sturridge yn manteisio ar fethiant Cymru i glirio.
Yr ail hanner o funud i funud
48 munud – Cymru’n dechrau ar dân gyda Gareth Bale yn cal y bel i’w draed ar ddau achlysur.
48 munud – Cic gornel i Lloegr ond doedd dim bygythiad go iawn i amddiffyn cadarn Cymru.
50 munud – Sturridge yn ceisio ergyd o bell ond mae’r bêl yn mynd dros y traws.
54 munud – Y bel yn disgyn i Aaron Ramsey tu allan i’r bocs ac mae o’n ddigon hy i drio foli. Hart yn arbed yn gyfforddus.
54 munud – Ym mhen arall y cae mae Rooney yn ceisio ergyd o tu allan i’r bocs. Hennessey’n arbed.
55 munud – GÔL I LLOEGR: Wedi cyfnod byr o bwysau, mae seren Caerlyr Jamie Vardy yn llwyddo darganfod cefn y rhwyd ar ôl i beniad Ben Davies fethu a chlirio’r bêl o’r bocs.
58 munud – Walker yn chwipio’r bel i mewn at Vardy ond Hennessey’n llwyddo i’w dyrnu hi o’r neilltu.
59 munud – Cig gornel i Lloegr. Pêl ddigon blêr gan Rooney i mewn i’r bocs ac mae hi’n cael ei chlirio’n hawdd.
60-75 munud
60 munud – Bale yn chwilio am Ramsey sydd ar ben ei hun ar flaen y gad ond mae gormod o bwysau ar y bêl.
61 munud – Cymru’n edrych yn ddigon sigledig ar hyn o bryd. Mae Lloegr yn cael y bêl i mewn i’r bocs yn aml ac mae Cymru’n cael trafferth ei chlirio’n ddigon pell.
62 munud – God Save the Queen yn llenwi’r stadiwm erbyn hyn. Dim smic gan gefnogwyr Cymru.
65 munud – Sturridge yn gwneud argraff. Rhediad da ac ergyd pwerus ond yn methu a dod o hyd i’r tatged.
66 munud – Ledley yn cael ei eilio am David Edwards. Ond o feddwl fod Ledley wedi torri ei goes ar 7 Mai, mae’n rhyfeddol ei fod wedi chwarae cyhyd.
71 munud – Y tempo’n arafu wrth i Robson-Kanu ddod oddi ar y cae i wneud lle i Jonathan Williams.
72 munud – Eilydd i Lloegr. Adam Lallana i ffwrdd a Marcus Rashford ymlaen.
Y chwarter awr ola – a siom
77 munud – Chester a Williams yn taflu eu hunain yn arwrol o flaen ergyd gan Rooney ac yn llwyddo i atal y bêl rhag mynd dim pellach.
79 munud – Johnny Williams yn ennill gofod tu allan i’r bocs ond mae ei ergyd yn mynd dros y trawst.
80 munud – Walker yn beryglus i lawr yr asgell dde ond mae Allen yn llwyddo i’w atal.
81 munud – Cic gornel i Lloegr – Joe Allen yn rhoi blaen troed iddi’n ddigon pell.
85 munud – Lloegr yn pwyso eto ond mae amddiffyn Cymru’n gadarn fel wal Castell Caernarfon.
88 munud – Chwarae da gam Lloegr ar gyrion bocs Cymru ond Ashley Williams yn achub y dydd.
88 munud – Walker yn ceisio’i lwc i Lloegr ond pen Ben Davies yn atal y bêl.
89 munud – 3 munud o amser ychwanegol.
90 munud – GÔL I LLOEGR. Sturridge yn defnyddio ei bŵer a chyflymder i dorri trwy amddiffyn Cymru a’r ergyd olaf yn sleifio heibio i Hennessey.
93 munud – Diwedd y gêm. Y sgôr orffenedig Lloegr 2 – Cymru 1