Bale eto!
Fe gymerodd Cymru gam arall at rowndiau 16 ola’ Ewro 2016 wrth i Gareth Bale sgorio i’w rhoi ar y blaen ar hanner amser yr ornest fawr yn erbyn Lloegr.

Roedd Lloegr wedi cael llawer m mwy o feddiant ond a Bale heb gael fawr o gyfle ond roedd yn gic gosb o 30 llath yn ddigon.

Fe ddaeth honno wedi i gapten Lloegr, Wayne Rooney, ymateb i dacl gan ymosodwr Cymru, Hal Robson-Kanu a’i wthio.

Os bydd Cymru’n ennill, fe fyddan nhw drwodd yn bendant; fe fyddai un pwynt fwy neu lai yn ddigon.

Yr ornest o funud i funud – stori’r hanner cynta

2 munud – Cig gornel i Lloegr. Rooney yn ei chymryd hi ond Gunter yn clirio’r gyfforddus.

4 munud – Cic gosb i Gymru wedi i Walker gosbi yn erbyn Ramsey. Ramsey yn ei chymryd hi ond Walker yn clirio.

5 munud – Dechrau digon araf i’r gêm wrth i’r ddau dim adael i’r emosiwn setlo.

6 munud – Cyfle ardderchog i Lloegr. Taylor yn chwipio’r bel o’r asgell dde i mewn i’r bocs a Sterling yn ei tharo’n gam.

9 munud – Cyfle i Gymru. Robson-Kanu yn gweld rhediad Bale a bwydo’r bel iddo’n y bocs. Cahill yn gorfod blocio’r ergyd.

9 munud – Cic gornel i Gymru. Hart yn gollwng y bel ond Lloegr yn llwyddo i glirio.

12 munud – Rooney yn cymryd ergyd o 30 llath tu allan i’r bocs ond y bêl yn mynd yn bell dros y trawst.

13 munud – Lloegr yn cadw’r bêl yn daclus ond yn ei chael hi’n anodd i wneud unrhyw beth gyda’r meddiant.

14 munud – Cig gosb i Gymru wedi i Ledley cael ei faglu yn hanner Cymru. Y bêl yn cael ei tharo i fyny’r cae at Robson-Kanu ond Lloegr yn llwyddo i glirio.

Yr ail 15

17 munud –  Cic gornel i Lloegr wedi i Ashley Williams glirio’r bêl a’i ben. Rooney yn ei chwipio i mewn ond Cymru’n clirio eto.

21 munud – Cig gosb i Lloegr tu allan i focs Cymru. Y cyfan yn dod o bas wael gan Ashley Williams. Harry Kane yn cymryd y gic ond mae hi’n mynd i entrychion yr eisteddle.

24 munud –  Ledley’n cael ei gosbi am faglu Rose ond mae’n edrych yn debyg bod y dyfarnwr wedi cael ei dwyllo gan blymio Rose.

26 munud – Tempo’r  gem yn cyflymu erbyn hyn. Cic gornel arall i Lloegr ond Alli’n cosbi yn y bocs. Cic gosbi i Gymru.

29 munud – Ben Davies yn cosbi’n erbyn Harry Kane. Cic gosb i Loegr. Rooney’n ei chymryd hi at y postyn pellaf ond neb yn disgwyl amdani.

Y trydydd 15 – a’r gol

31 munud – Cyfle arall i Loegr. Y bêl yn cael ei chwipio i mewn i’r bocs. Kane yn penio a Davies yn clirio. Ac er bod y bel wedi taro llaw Ben Davies, doedd hi ddim yn fwriadol.

35 munud – Cic gornel i Lloegr. Rooney yn ei chymryd hi. Smalling yn penio’n bwerus ond mae’r bel yn saethu heibio’r post.

37 munud – Hen Wlad Fy Nhadau yn cael ei bloeddio tu mewn i’r stadiwm. A fydd hyn yn bwydo angerdd Cymru?

41 munud – GOL I GYMRU! Cic gosb i Gymru wedi i Rooney gosbi’n erbyn Robson-Kanu. Gareth Bale yn ei chymryd hi ac er bod Hart yn cael cyffyrddiad, dyw hi ddim digon da. Ergyd arbennig arall gan Bale o gic rhydd.

45 munud – Un munud o amser ychwanegol wrth i Gymru ddechrau godi’r tempo eto.

45 munud – Hanner amser.