Hal Robson-Kanu - yn y tim i greu lle i Gareth Bale (Joe Giddens/PA)
Mae Chris Coleman wedi gwneud tri newid i dîm Cymru cyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr – a dau o’r rheiny er mwyn rhoi mwy o ryddid i’r seren, Gareth Bale.
Fe fydd Hal Robson-Kanu yn chwarae yn y blaen, fel bod Bale yn gallu cael rôl rydd y tu ôl iddo ac fe fydd Joe Ledley’n ymuno gyda Joe Allen yn gwarchod canol y cae a chreu lle i Bale ac Aaron Ramsey.
Mae hynny’n golygu bod Johnny Williams a David Edwards allan o’r unarddeg.
Y trydydd newid yw fod Wayne Hennessey yn ôl yn y gôl yn lle Danny Ward, ar ôl dod tros anaf i’w gefn.
Cefnogwyr yn cyrraedd
Mae miloedd o gefnogwyr Cymru a chefnogwyr y crysau gwyn i gyrraedd dinas Lens heddiw ac mae Mae’r gêm yn cael ei gweld fel un tyngedfennol, gyda buddugoliaeth yn golygu y bydd Cymru yn sicr o gael lle yn y rowndiau cynderfynol.
Tîm Cymru yw: Wayne Hennessey, Chris Gunter, James Chester, Ashley Williams, Ben Davies, Neil Taylor, Joe Allen, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Gareth Bale a Hal Robson-Kanu
Mae Lloegr wedi cyhoeddi mai’r tim sy’n dechrau iddyn nhw yw’r un a ddechreuodd y gêm gyfartal yn erbyn Rwsia: Joe Hart, Kyle Walker, Gary Cahill, Chris Smalling, Danny Rose, Eric Dier, Dele Alli, Wayne Rooney, Raheem Sterling, Harry Kane ac Adam Lallana.