Llun: Y Cyfnod
Ar drothwy gêm fawr Cymru yn erbyn Lloegr yn Ewro 2016, mae Y Cyfnod, papur newydd lleol tref Y Bala a’r ardal, wedi datgelu cynlluniau i ail-enwi tref Y Bala yn Bale, ar ôl y pêl-droediwr rhyngwladol ac arwr y tîm cenedlaethol.
Daeth y syniad yn dilyn sgwrs am sut y gallai’r dref a’r ardal ddangos eu cefnogaeth i’r tîm cenedlaethol, ac yn arbennig i Gareth Bale. Y gobaith yw addasu llythyren olaf enw’r Bala ar bedwar prif arwydd y dref i ddarllen ‘Bale’.
Dywedodd Dilwyn Morgan, cynghorydd sir ward tref y Bala, ei fod yn credu ei fod yn syniad “penigamp”.
Meddai: “Meddyliwch am ffordd o anrhydeddu un sy’n arwr go iawn ymhlith y Cymry ac yn enwog trwy’r byd i gyd. Mi ddyle hyn roi Bala, sori, Bale, ar y map rhyngwladol.”
Heddiw, bydd nifer o ddisgyblion ysgolion lleol yn gwylio’r gêm ac mae’r ddraig goch i’w gweld ar hyd a lled yr ardal yn cefnogi Cymru.
Dywedodd Mari Williams, golygydd Y Cyfnod, fod yr ardal yn “lloerig am chwaraeon” a bod gweld y dathlu yn Bordeaux pan fu Cymru’n fuddugol yn erbyn Slofacia wedi ysbrydoli’r syniad.
Meddai Mari Williams: “Dwi’n siŵr y bydd Gareth Bale wrth ei fodd o glywed bod yna dref yng ngogledd Cymru wedi newid ei enw i’w gefnogi o a’r tîm cenedlaethol, pwy a ŵyr, efallai y daw draw yn fuan i weld ‘ei dre’, Y Bale!”
“Pwy a ŵyr lle all hyn arwain, falle bydd busnesau a siopau lleol yn dilyn – bwyty Bale Spice, Cigydd y Bale, Modurdy’r Bale, Carpedi’r Bale…”