Warren Gatland Llun: PA
Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi gwneud dau newid i’r tîm ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Seland Newydd yn Wellington ddydd Sadwrn.

Mae’r cefnwr Liam Williams, un o un o sêr tîm Cymru yn y prawf cyntaf yn Auckland pan gollodd Cymru 39-21, yn cael ei symud i’r asgell yn dilyn anaf i George North. Rhys Patchell fydd yn chwarae yn safle’r cefnwr.

Ymysg y blaenwyr, mae Luke Charteris wedi cael ei alw nôl i’r ail reng yn lle Bradley Davies sydd ar y fainc. Nid yw Jake Ball wedi cael ei gynnwys yn y garfan.

Mae’r Crysau Duon hefyd wedi gwneud dau newid i’w tîm ar gyfer yr ail Brawf. Bydd Israel Dagg yn dechrau fel cefnwr a Ben Smith yn symud i’r asgell yn lle Julian Savea.

Ac mae Sam Whitelock dychwelyd yn yr ail reng ochr yn ochr â Brodie Retallick ar draul Luke Romano.