Cefnogwyr pel-droed Lloegr yn Lille nos Fercher Llun: Niall Carson/PA Wire
Mae’r heddlu yn Ffrainc wedi arestio 36 o bobl ar ôl trais ar strydoedd dinas Lille neithiwr cyn i Gymru herio Lloegr ym mhencampwriaeth Ewro 2016 heddiw.
Cafodd fflerau a than gwyllt eu cynnau wrth i’r heddlu ruthro at gefnogwyr a thanio nwy dagrau mewn ymgais i wasgaru’r tyrfaoedd.
Yn ôl yr awdurdodau, mae 16 o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty ond nid oes manylion am eu hanafiadau ar hyn o bryd.
Bydd Cymru a Lloegr yn wynebu ei gilydd yn y Stade Bollaert-Delelis yn ninas gyfagos Lens am 2 prynhawn ma.
Byddai buddugoliaeth yn golygu y bydd Cymru yn sicr o gael lle yn y rowndiau cynderfynol wedi i Slofacia guro Rwsia ddoe.
Er bod y gêm yn cael ei chwarae yn Lens, mae llawer o gefnogwyr yn aros yn ninas Lille sydd tua hanner awr i ffwrdd. Roedd gwaharddiad ar yfed alcohol yn gyhoeddus mewn grym neithiwr ond fe wnaeth llawer o gefnogwyr Lloegr anwybyddu hynny.
Cafodd rhai eu gweld yn dringo arwyddion ffyrdd ac er bod yr heddlu o’r DU – sydd yn Ffrainc i helpu gyda’r ymgyrch diogelwch – wedi annog eu cefnogwyr i ymddwyn yn briodol, fe ruthrodd heddlu Ffrainc at y cefnogwyr dro ar ôl tro.
Roedd cefnogwyr Slofacia a Rwsia hefyd yn y ddinas ar ôl eu gêm yn y ddinas ddydd Mercher.
Dywedodd yr awdurdodau yn Ffrainc bod y rhai a gafodd eu harestio yn cynnwys chwech o gefnogwr Rwsia yn dilyn y trais fuodd ddydd Sadwrn ym Marseille.
Cafodd pump o bobl eraill eu harestio am feddwdod cyhoeddus ar drên o Lundain a gafodd ei stopio cyn iddo gyrraedd Lille.