Cefnogwyr Cymru'n ymgasglu yn Le Palais des Congres yn barod i deithio ar fysus o Baris i Lens
Ar drothwy’r gêm fawr yn erbyn Lloegr heddiw, mae disgwyl miloedd o gefnogwyr Cymru a chefnogwyr y crysau gwyn i gyrraedd dinas Lens heddiw.
Mae’r gêm yn cael ei gweld fel un tyngedfennol, gyda buddugoliaeth yn golygu y bydd Cymru yn sicr o gael lle yn y rowndiau cynderfynol.
Mae angen o leiaf un fuddugoliaeth arall ar Gymru, neu ddwy gêm gyfartal yn Grŵp B i wneud hanes a chyrraedd rowndiau nesaf Ewro 2016.
Ar strydoedd dinas Lille, rhyw hanner awr o Lens, lle enillodd Slofacia yn erbyn Rwsia, cafodd saith o bobol eu harestio yn hwyr nos Fawrth, gan gynnwys grŵp o Rwsiaid oedd yn ceisio dechrau ffrae â chefnogwyr Lloegr.
“Tynnu coes” rhwng y Cymry a’r Saeson
Hyd yn hyn, dydy cefnogwyr Cymru ddim wedi bod mewn trafferthion gyda heddlu Ffrainc, a bu “tynnu coes” rhwng y Cymry a’r Saeson yn Lille, yn ôl Aled Swain, 24, o Bontypridd.
“Alla’i ddim aros tan y gêm. Dwi’n nerfus ac yn gyffrous… dwi’n teimlo y gallwn gael rhyw fath o ganlyniad i fod yn onest,” meddai.
“Bydd yr awyrgylch yn angerddol. Bydd y ddau dîm am ennill ond dwi ddim yn pryderu am unrhyw beth yn digwydd.”
Mae cefnogwyr sydd heb docynnau i weld y gêm yn cael eu hannog i beidio â theithio i Lens o gwbl, gyda Chymdeithas Bêl Droed Cymru yn awgrymu i bobol deithio i drefi cyfagos, Arras ac Amiens, yn lle.
Dywedodd un cefnogwr, Alun Price, 54, o Gasnewydd, sydd eisoes yn Arras, ei fod yn gobeithio teithio i’r gêm, “i weld Cymru’n ennill”, ac yna “gadael yn heddychlon fel bydd miloedd o gefnogwyr eraill am weld yn digwydd.”