Doedd dim modd cynnal y gêm ugain pelawd rhwng Gwlad yr Haf a Morgannwg yn y T20 Blast nos Fercher yn dilyn glaw trwm.
Cafodd y gêm ei chanslo ar ôl i’r dyfarnwyr Tim Robinson a Neil Mallender archwilio’r cae am 6 o’r gloch.
Roedd yr ornest i fod i ddechrau am 5.30 a’r amser hwyraf y gellid fod wedi dechrau’r gêm oedd 8 o’r gloch, pan fyddai hi’n gêm pum pelawd yr un.
Ond penderfynodd y dyfarnwyr na fyddai’r cae yn sychu mewn pryd, ac mae’r timau’n cael un pwynt yr un, sy’n golygu bod Morgannwg yn aros ar frig y tabl.