Roy Hodgson (Llun: Mike Egerton/PA)
Mae hyfforddwr tîm pêl droed Lloegr, Roy Hodgson, wedi dweud nad yw’n poeni am honiadau Gareth Bale, nad yw Lloegr yn “chwarae â’r un angerdd â Chymru.”

Mae tîm Lloegr yn dweud eu bod yn hyderus nad ydyn nhw’n disgwyl unrhyw newidiadau sylweddol i garfan Cymru ac nad ydyn nhw’n disgwyl cael eu synnu gan y tîm.

Mae’r gêm fawr yn Lens rhwng y ddau dîm yn dechrau ddydd Iau am 2 o’r gloch.

Ar ôl i Slofacia ennill yn erbyn Rwsia o 2-1 neithiwr, mae angen un fuddugoliaeth arall ar Gymru neu ddwy gêm gyfartal i sicrhau eu lle yn y rowndiau cynderfynol.

Gydag oriau yn unig tan y gêm fory, fe wnaeth Gareth Bale gwestiynu balchder tîm Lloegr, gan awgrymu na fyddai un o’r tîm yn cael lle yng ngharfan Cymru.

Daeth beirniadaeth o’r amddiffynnwr James Chester hefyd, a honnodd nad oedd neb o dîm Lloegr yn yr un dosbarth â Gareth Bale.

Diystyru sylwadau

Mewn cynhadledd i’r wasg, fe wnaeth Roy Hodgson ddiystyru’r sylwadau, ac arhosodd yn hyderus am ragolygon Lloegr yn y gêm.

“Dwi’n meddwl byddan nhw (Cymru) yn chwarae fel maen nhw wedi bod yn gwneud am gyfnod hir nawr gyda Chris Coleman. Maen nhw wedi bod yn chwarae’n llwyddiannus y ffordd honno hefyd,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn disgwyl unrhyw newidiadau mawr yn eu steil o chwarae na’r bobol maen nhw wedi bod yn defnyddio.

“Dwi ddim yn meddwl byddwn ni’n cael ein synnu gyda’r hyn fyddan nhw’n ceisio gwneud pan fyddan nhw â’r bêl, neu pan nad oes ganddyn nhw’r bêl.”

Roedd yn cydnabod na fydd Lloegr efallai yn gallu synnu Cymru, “gan eu bod yn nabod ein chwaraewyr ac yn nabod y math o bêl-droed rydym yn chwarae.”

Gellir darllen blog Iolo Cheung sydd yn Ffrainc yma.