Heddlu arfog yn Ffrainc Llun: PA
Mae pryderon bod grwpiau bychain o bobol o Syria wedi gadael y wlad gyda’r bwriad o deithio i Ffrainc a Gwlad Belg ar gyfer ymosodiad brawychol yn ystod pencampwriaeth Ewro 2016.

Anfonodd swyddogion o Wlad Belg nodyn at swyddogion yn Ffrainc gyda gwybodaeth am y grwpiau dan sylw, ac mae’r nodyn wedi’i ledaenu i heddluoedd ledled Ffrainc.

Ond ar hyn o bryd, dydy llywodraeth Ffrainc ddim wedi newid eu rhybudd am ymosodiadau brawychol yn sgil y wybodaeth gan fod derbyn nodyn o’r fath “yn beth cyffredin”.

Mae Ffrainc eisoes yn wyliadwrus oherwydd bod brawychwyr o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi targedu Paris y llynedd, ac wedi bygwth ymosod yn ystod cystadleuaeth bêl-droed Ewro 2016.

Rhybudd 

Dywedodd un o bapurau newydd Gwlad Belg, Dernière Heure ddydd Mercher fod swyddogion o Wlad Belg wedi rhybuddio heddluoedd yn Ffrainc fod posibilrwydd y gallai nifer o drigolion Syria fod wedi gadael am Wlad Belg a Ffrainc ddeng niwrnod yn ôl.

Mae adroddiadau bod ymladdwyr heb basborts wedi ceisio cyrraedd Ewrop ar gwch drwy Dwrci a Gwlad Groeg, a’u bod nhw’n bwriadu targedu canolfan siopa, bwyty Americanaidd a’r heddlu.

Ond does dim bwriad ar hyn o bryd i newid statws rhybudd diogelwch y wlad a gafodd ei gyflwyno wedi’r ymosodiadau ym Mharis pan gafodd 130 o bobol eu lladd.

Does dim cyswllt ar hyn o bryd rhwng y rhybudd diweddaraf a’r ymosodiad nos Lun pan gafodd plismon a’i bartner eu lladd.