Carfan Cymru yn cynnal munud o dawelwch er cof am y plismon a'i bartner yn Dinard Llun: O gyfrif Twittter Cymdeithas Bel-droed Cymru
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cynnal munud o dawelwch er cof am blismon a’i bartner a gafodd eu lladd yn Ffrainc nos Lun.
Cafodd uwch-swyddog yr heddlu, Jean-Baptiste Salvaing a’i bartner Jessica Schneider eu lladd yn dilyn ymosodiad y tu allan i’w cartref yn Magnanville, tua 35 milltir i’r gorllewin o Baris.
Fe aeth y dyn arfog i’r eiddo ac ar ôl tair awr, fe ruthrodd swyddogion heddlu arbenigol i mewn i’r adeilad.
Cafwyd hyd i Jessica Schneider, a oedd hefyd yn gweithio gyda’r heddlu, yn farw. Ni chafodd mab tair oed y cwpl ei anafu.
Cafodd yr ymosodwr Larossi Abballa, 25 oed, ei ladd gan yr heddlu wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r adeilad.
Daeth i’r amlwg wedi hynny bod yr heddlu wedi bod yn ymchwilio i’w weithredoedd jihadaidd fel aelod o grŵp A’maq, sy’n gysylltiedig â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Mewn fideo, dywedodd Abballa y byddai safle Ewro 2016 yn Ffrainc “fel mynwent”.