Dydy herio un o fatwyr gorau’r byd ddim yn gofidio Prif Hyfforddwr tîm criced Morgannwg, Robert Croft wrth iddyn nhw deithio i Wlad yr Haf ar gyfer gornest ugain pelawd y T20 Blast yn Taunton nos Fercher.
Bydd y frwydr rhwng bowliwr cyflym Morgannwg, Dale Steyn a batiwr agoriadol Gwlad yr Haf, Chris Gayle yn fyw ar Sky Sports am 5.30yp.
Dywedodd Croft wrth Golwg360: “Mae Chris Gayle yn whare gyda nhw, a mae Dale Steyn yn whare gyda ni. Mae’r dorf yn mynd i fod yn enfawr lawr ’na, a gobeithio bo ni’n gallu dodi sioe arno.”
Ar ôl i Forgannwg golli o 28 rhediad yn erbyn Swydd Middlesex yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London nos Fawrth, mae’r gystadleuaeth ugain pelawd yn gyfle i Forgannwg ail-ddarganfod y math o berfformiadau sydd wedi’u codi nhw i frig y ddau dabl undydd.
Ychwanegodd Croft: “Mae’n gêm bwysig iawn fory. Gobeithio bo ni’n gallu gwneud mor dda fory.”
Mae Morgannwg ar frig y tabl T20 yn rhanbarth y De ar hyn o bryd, yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Swydd Surrey a Swydd Gaerloyw, ac mae Croft yn awyddus i’r record 100% barhau.
“Ni wedi whare criced arbennig o dda dros yr wythnos yn y gêm undydd. Y peth pwysig nawr yw gwneud yn siŵr, ar ôl colli un gêm, bo ni ddim yn colli popeth. Ond ni’n meddwl bod digon o gymeriad yn stafell newid ni i wneud yn siŵr fod pethau fel’na ddim yn mynd i ddigwydd.
“Mae pob tîm wedi colli un neu ddwy gêm yn y gystadleuaeth hyn… jyst rhaid cadw fynd. Os y’n ni’n ennill gêm neu colli gêm, jyst gwneud yn siŵr bo ni’n canolbwyntio ar y gêm nesa.”
Dydy Mark Wallace, James Kettleborough, Nick Selman na Ruaidhri Smith ddim ar gael ar gyfer y daith gan eu bod nhw eisoes yn chwarae i’r ail dîm yng Nghasnewydd.
Ond mae Timm van der Gugten yn ymuno â Dale Steyn yn y garfan.
Yng ngharfan Gwlad yr Haf mae cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg a chapten undydd y sir, Jim Allenby ac mae’r tîm wedi’u hyfforddi gan gyn-gapten a chyn-brif hyfforddwr y Cymry, Matthew Maynard. Ynghyd â Chris Gayle, mae batiwr Sri Lanca Mahela Jayawardene hefyd wedi’i gynnwys.
Carfan Gwlad yr Haf: C Gayle, J Allenby (capten), P Trego, M Jayawardene, J Myburgh, J Hildreth, R van der Merwe, L Gregory, C Overton, J Overton, M Waller, T Groenewald, R Davies, Yasir Arafat
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, C Ingram, A Donald, C Cooke, G Wagg, C Meschede, A Salter, D Cosker, T van der Gugten, M Hogan