Jordan Howe yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC yn Abertawe yn 2014
Mae Jordan Howe o Gaerdydd wedi ennill medal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC yn yr Eidal.

Roedd y para-athletwr 0.10 eiliad i ffwrdd o’r fedal arian, gan orffen y ras 100 metr yng nghategori T35 mewn 13.13 eiliad.

Dau Rwsiad gipiodd y medalau aur ac arian – Dimitrii Safronov yn yr ail safle gan orffen y ras mewn 13.03 eiliad, ac Artem Kalashian yn gyntaf gan orffen mewn 12.95 eiliad.

Hon yw ail fedal efydd Howe yr wythnos hon, ar ôl iddo orffen y ras 200 metr yn yr un categori mewn 28.27 eiliad ddydd Llun.

Gwnaeth Howe ei ymddangosiad Paralympaidd cyntaf i Brydain yn Llundain yn 2012.