Bydd Andre Ayew yn gadael Abertawe ar drosglwyddiad am ddim pan ddaw ei gytundeb i ben y mis hwn.

Mae Ayew, 31, sy’n gapten ar Ghana wedi sgorio 35 gôl mewn 106 ymddangosiad ers ailymuno ag Abertawe o West Ham am £18m fis Ionawr 2018.

Ymunodd Ayew ag Abertawe yn wreiddiol ar drosglwyddiad am ddim o Marseille yn 2015 ac, ar ôl un tymor lle sgoriodd 12 gôl mewn 35 ymddangosiad, ymunodd â West Ham am £20.5m.

Dychwelodd 18 mis yn ddiweddarach ond ni allai achub Abertawe rhag cwympo o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth.

Treuliodd Ayew y tymor canlynol ar fenthyg gyda Fenerbahce, ond daeth yn ôl i Abertawe yn 2019 a fe oedd prif sgoriwr tîm Steve Cooper dros y ddau dymor diwethaf.

Daeth ei ymddangosiad olaf i’r clwb ddydd Sadwrn diwethaf, wrth i Abertawe golli rownd derfynol y gêmau ail-gyfle 2-0 yn erbyn Brentford.

Roedd yno obaith byddai Ayew yn arwyddo cytundeb newydd pe bai Abertawe wedi ennill y gêm honno, ond mae’r golled yn golygu fod ei amser yn Stadiwm Liberty ar ben.

Ar fenthyg

Mae Abertawe hefyd wedi rhyddhau Barrie McKay, sydd wedi treulio’r 18 mis diwethaf ar fenthyg yn Morecambe.

Un arall sy’n gadael y clwb yw’r Cymro Declan John, a wnaeth argraff tra ar fenthyg yn Bolton y tymor diwethaf.

Mae Kieron Freeman, a wnaeth un ymddangosiad yn unig ar ôl ymuno am £100,000 o Swindon ym mis Ionawr, a chyn chwaraewr ifanc Real Madrid, Jordi Govea, hefyd yn gadael.

Bydd y triawd oedd ar fenthyg yn Abertawe – Freddie Woodman, Marc Guehi a Conor Hourihane – yn gadael.

Ar ben hynny, mae cwestiynau’n parhau am ddyfodol hirdymor y rheolwr ei hun, Steve Cooper.

Dim ond blwyddyn sydd ganddo ar ôl ar ei gytundeb ac mae wedi’i gysylltu â swydd Crystal Palace.