Mae Charlie Caton, sy’n fab i Colin Caton, rheolwr tîm pêl-droed y Bala, wedi arwyddo cytundeb proffesiynol gyda chlwb Adran Un Amwythig.

Mae’r llanc 18 oed wedi bod yn ymarfer yn rheolaidd gyda charfan tîm cyntaf y Clwb ac wedi chwarae iddyn nhw deirgwaith y tymor diwethaf.

Fe fydd ei gytundeb yn parhau am ddwy flynedd.

Meddai hyfforddwr y tîm cyntaf a chyfarwyddwr academi’r clwb, David Longwell:

“Mae sgorio goliau yn dod yn naturiol i Charlie ac fe wnaeth yn dda y llynedd.

“Mae angen iddo gychwyn cyn y tymor a chael cyfle i ddangos i’r rheolwr beth sydd ganddo i’w gynnig.

“Mae’n fachgen dymunol sy’n dangos parch bob amser. Rydym yn ceisio ei wthio oherwydd fod ganddo gymaint mwy o botensial.”