Cychwyn siomedig i ymgyrch Euro 2023 a gafodd tîm dan-21 Cymru mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Moldova yn Stebonheath Park neithiwr (nos Wener 4 Mehefin).

Methodd y bechgyn ifanc ag ailadrodd y fuddugoliaeth 3-0 a gafwyd yn erbyn eu gwrthwynebwyr ar ddiwedd yr ymgyrch ddiwethaf.

Gyda George Ratcliffe, Christian Norton a Brandon Cooper wedi eu hanafu, a Rubin Colwill heb fod ar gael ar ôl cael ei gynnwys yng ngharfan Euro 2020 Rob Page, roedd eu tasg yn fwy anodd y tro hwn.

Ychwanegwyd at anawsterau Cymru hanner ffordd drwy’r ail hanner pan gafodd Sion Spence ail gerdyn melyn am ffugio trosedd yn ei erbyn.

Er hyn daliodd y 10 dyn ati i’r diwedd, gan ddod yn agos at gôl hwyr gyda pheniad pwerus gan Joe Adams ond a drawodd y trawst.