Mae Morgannwg wedi curo Swydd Gaerhirfryn o chwe wiced yng Nghaerdydd – y tro cyntaf i’r Saeson golli yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, a’r tro cyntaf i Forgannwg eu curo yn y brifddinas ers 1996.
51 arall oedd eu hangen ar Forgannwg ar drydydd bore eu gêm Bencampwriaeth, wrth gwrso nod o 188, gyda Marnus Labuschagne (32 heb fod allan) a Kiran Carlson (14 heb fod allan) wrth y llain.
Dechreuodd yr Awstraliad Labuschagne yn gadarn ond fe gollodd e ei bartner Carlson wrth i Luke Wood ddarganfod ymyl ucha’r bat i roi daliad i’r wicedwr Dane Vilas, a’r batiwr ifanc o Gaerdydd allan am 16, a Morgannwg yn 146 am bedair – 42 rhediad yn brin o’r nod.
Cyrhaeddodd Labuschagne ei hanner canred oddi ar 54 o belenni – ei hanner canred cynta’r tymor hwn a hanner canred cynta’r ornest hon – ac erbyn hynny, dim ond 15 rhediad arall oedd eu hangen ar Forgannwg i gipio’r fuddugoliaeth.
Erbyn diwedd yr ornest, roedd e’n ddi-guro ar 63, a bydd Morgannwg yn gobeithio bod ei gyfnod hesb y tu ôl iddo fe ar drothwy cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, wrth i’r chwaraewyr gael seibiant o’r gemau pedwar diwrnod am ryw fis.
Roedd y gêm yn un arwyddocaol i Michael Hogan, bowliwr 40 oed Morgannwg, hefyd wrth iddo fe gipio’i 400fed wiced dosbarth cyntaf i’r sir.
Ond bydd Swydd Gaerhirfryn yn mynd adre’ yn cwyno am gyflwr y llain, yn dilyn sylwadau Alex Davies ar ddiwedd yr ail ddiwrnod.
Dywedodd y batiwr – prif sgoriwr yr ymwelwyr yn yr ail fatiad gyda 47 – fod y llain “yn is na’r safon” sydd i’w disgwyl, ac nad oedd “yn ddigon da ar gyfer criced dosbarth cyntaf” ar ôl gweld 19 o wicedi’n cwympo ar y diwrnod cyntaf a’r ychydig dros ddiwrnod arall yn ffafrio’r bowlwyr.
Fe fu hefyd yn cwyno am safon y dyfarnu gan Alex Wharf a Paul Baldwin oedd yn gyfrifol am “sawl penderfyniad gwael”, gan ddweud mai bai’r chwaraewyr oedd “rhai o’r wicedi ond nid eraill”.
“Rydyn ni wedi gweld pa mor wael mae’r llain yn gallu bod felly does dim rheswm pam na allwn ni gael y saith wiced hyn,” meddai wedyn.
Ond yn y pen draw, dim ond un ohonyn nhw gipiodd yr ymwelwyr a doedd hynny ddim yn ddigon da o bell ffordd wrth i Forgannwg gyrraedd y nod yn weddol ddi-drafferth.