Methodd Cymru â gorffen ymgyrch Euro 2020 ar nodyn uchel wrth I Albania ddal eu tir mewn gêm ddi-sgôr yng Nghaerdydd heno (nos Sadwrn, 5 Mehefin).

Hon oedd gêm olaf Cymru cyn eu gêm ngyntaf ym Mhencampwriaeth Ewrop yn erbyn y Swistir yn Baku ar Fehefin 12.

Er gwaethaf gwneud wyth o newidiadau ar ôl colli 3-0 i Ffrainc nos Fercher, ddaeth hynny ddim â llwyddiant i Gymru.

Roedd Neco Williams wedi cael ei glirio i chwarae oriau’n unig cyn y gêm, ar ôl i UEFA benderfynu na fyddai’n rhaid i gefnwr Lerpwl gael ei wahardd am un gêm am ei gerdyn coch yn erbyn Ffrainc.

Wnaeth y naill ochr na’r llall fawr o argraff ar y dorf yn ystod hanner cyntaf di-fflach.

Llwyddodd blaenwr Albania, Rey Manaj, i fynd heibio Chris Mepham yn rhy rwydd ar ôl 17 munud, ond aeth ei ymdrech uwchben y trawst.

Daeth symudiad gorau Cymru yn yr hanner cyntaf ychydig cyn yr egwyl wrth i Tyler Roberts a David Brooks gyfuno i roi cyfle i Ramsey ergydio.

Roedd Cymru’n chwarae’n well ar ôl yr egwyl, ar ôl i ergydiwr Caerdydd, Kieffer Moore ddod ar y cae. Fe wnaeth ef, a Neco Williams a’r eilydd Harry Wilson, roi gôl Albania dan fygythiad cyson.

Daeth Gareth Bale ar y cae 19 munud cyn y diwedd i gymeradwyaeth fyddarol gan y dorf.

Fe wnaeth Williams a Moore barhau i ymosod gan orfodi golwr Albania, Gentian Selmani, i wneud sawl arbediad wrth i’r gêm ddirwyn i ben.

Er hynny, methodd Cymru â chael y bêl i’r rhwyd a gorffennodd y gêm yn ddi-sgôr.