Mae Aled Siôn Davies, y Cymro Cymraeg o Ben-y-bont ar Ogwr, yn dweud bod ei fedal aur Ewropeaidd yng Ngwlad Pwyl yn “gam cyntaf tuag at adeiladu ar gyfer Tokyo”.

Enillodd ei seithfed teitl Ewropeaidd neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 5) gyda thafliad o 15.17m wrth daflu pwysau yn nosbarth F63.

“Roedd yn un gwahanol gen i,” meddai am ei berfformiad.

“Do’n i ddim yn fi fy hun allan yno heddiw.

“Mae sbel ers i fi gystadlu’n iawn.

“Dw i mewn siâp gwych.

“Dyw hyn ddim wir yn adlewyrchu lle ydw i, felly dw i’n falch o gael hwn allan o’r ffordd, a gobeithio taw hwn yw’r cam cyntaf tuag at adeiladu ar gyfer [Gemau Paralympaidd] Tokyo.”

Tom Habscheid o Lwcsembwrg enillodd y fedal arian gyda thafliad o 14.53m, a Badr Touzi o Ffrainc gipiodd y fedal efydd gyda’i dafliad gorau erioed (13.53m).

Roedd medal efydd hefyd i Harri Jenkins yn ras 100m T33/34.

Fe wnaeth e orffen y ras gadair olwyn mewn 18.64 eiliad, y tu ôl i Henry Manni o’r Ffindir (16.28 eiliad) a’r Iseldirwr Stefan Rusch (16.69 eiliad).

Nos Wener (Mehefin 4), enillodd Harrison Walsh fedal efydd wrth daflu’r ddisgen yn nosbarth F64.

“Ro’n i’n nerfus ymlaen llaw,” meddai’r cyn-chwaraewr rygbi o’r Mwmbwls yn Abertawe.

“Ond mae hynny’n beth da.

“Ro’n i bob amser yn mynd yn nerfus cyn i fi chwarae gemau rygbi.

“Wnes i benderfynu wedyn na fyddwn i fyth yn gadael iddo effeithio fy mherfformiad.”