Mae Kieffer Moore yn dioddef oherwydd llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ar drothwy’r Ewros, yn ôl y rheolwr dros dro, Robert Page.
Roedd yr ymosodwr 6’5″ ar y fainc eto ar gyfer y gêm baratoadol yn erbyn Albania yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 5), er ei fod e wedi chwarae rhan allweddol wrth i Gymru gyrraedd y gystadleuaeth Ewropeaidd, gyda’u hymgyrch yn y ffeinals yn dechrau ymhen wythnos.
Dim ond dwywaith mae e wedi dechrau yn yr wyth gêm ddiwethaf, ond mae e wedi sgorio dwy gôl ers i Page gymryd yr awenau ar ôl i Ryan Giggs gamu o’r neilltu ar ôl cael ei arestio.
Chwaraeodd Moore ei ran neithiwr wrth i berfformiad Cymru wella’n sylweddol yn yr ail hanner.
“Os ydych chi’n ennill gemau pêl-droed ac yn chwarae’n dda, pam fyddech chi’n newid?” meddai’r rheolwr dros dro.
“Rydyn ni wedi cael llwyddiant yn y ffordd rydyn ni wedi chwarae dros y misoedd diwethaf ac os oedd angen rhywbeth gwahanol yn y gorffennol, roedden ni wedi rhoi Gareth [Bale] ar y chwith, DJ [Daniel James] ar y dde a Kieffer ymlaen, sydd wedi achosi rhagor o broblemau.
“Dw i jyst yn credu pan ydych chi wedi cael llwyddiant yn chwarae mewn ffordd a strwythur arbennig, rydych chi’n gofyn am ragor o broblemau o’i newid e.”
Tymor llwyddiannus i Gaerdydd
Mae Kieffer Moore newydd orffen tymor llwyddiannus gyda Chaerdydd, gan sgorio 20 o goliau.
Sgoriodd e yn erbyn Slofacia ac Azerbaijan hefyd wrth i Gymru gyrraedd Ewro 2020, ac fe sgoriodd e yn erbyn y Ffindir yng Ngynghrair y Cenhedloedd fis Medi y llynedd.
“Does gan Kieffer ddim byd i’w brofi nawr,” meddai Page.
“Mae e wedi profi dros y misoedd diwethaf gyda’i record wrth sgorio ar lefel clwb ei fod e’n rhan enfawr o’r garfan hon.
“Dw i wedi cael y sgwrs honno gyda fe yr wythnos hon hefyd, felly rydyn ni’n deall ei werth i’r garfan.
“Mae’n ben tost gwych i’w gael.”