Bydd Connor Roberts yn teithio i’r Ewros gyda charfan Cymru ond mae e wedi profi nad oes neb yn rhy hen i fwynhau casglu sticeri Panini – wrth i lun o dîm Lloegr gwblhau ei gasgliad o 678 o sticeri ar drothwy’r gystadleuaeth.

Roedd angen y sticer hwnnw, ynghyd â dau wrthwynebydd, Ozan Tufan a Cengiz Under o Dwrci a’r Albanwr Lyndon Dykes, i gwblhau’r casgliad cyflawn.

Cafodd pob aelod o garfan Cymru lyfr yn rhad ac am ddim wrth iddyn nhw ddod ynghyd o’r blaen, ac fe aeth y cefnwr de ati i geisio llenwi’r llyfr cyn y twrnament.

Ac fel pob cefnogwr a chasglwr brwd, mae e wedi bod yn ceisio cyfnewid sticeri â ffrindiau a phobol eraill.

“Dw i wedi anfon negeseuon at ambell berson ar Twitter ac Instagram i fy helpu gyda rhai sticeri oedd ar goll ac, a bod yn deg, mae llawer o bobol wedi fy helpu,” meddai.

“Dw i wedi cyfnewid â llawer o bobol sydd wedi gofyn i fi lofnodi fy sticer iddyn nhw.

“Wnaeth boi o Middlesbrough ddanfon llawer o sticeri i fi, ynghyd ag ambell un i’w lofnodi, felly rydyn ni wedi helpu ein gilydd.

“Mae gyda fi fi fy hun, rhaid fy mod i wedi agor tua 50 o becynnau ar y diwrnod cyntaf, ac fe wnes i ddod allan yn y pumed neu’r chweched pecyn.

“Ond ers hynny, dw i ddim wedi cael dwbwl ohonof fi fy hun.

“Dw i’n 25 ond gallwn ni i gyd gael sbort gyda’r rhain!”

Cystadlaeuth yn y garfan

Mae ambell aelod arall o garfan Cymru hefyd wedi bod yn casglu’r sticeri, sef David Brooks a Tom Lockyer, mae Gareth Bale wedi rhoi ei lyfr e i’w blant ac mae Ethan Ampadu wedi ei roi i aelodau’r teulu.

Ond roedd Connor Roberts yn benderfynol o fod y cyntaf i gwblhau ei gasgliad drosto fe ei hun, ac roedd ganddo fe reswm da dros wneud hynny.

“Ar ôl yr Ewros, dw i’n credu wna i gael y llyfr wedi’i lofnodi gan garfan Cymru i gyd a’i rafflo ar gyfer elusen os oes gan unrhyw un ddiddordeb ynddo fe,” meddai.

“Gobeithio y bydd hynny o help.

“Os nad ydw i’n ei rafflo fe yn y pen draw, galla i edrych arno fe ymhen rhai blynyddoedd ac os bydda i’n cael plant neu neiaint neu nithoedd, galla i ei ddangos e iddyn nhw.

“Dw i heb gasglu sticeri o’r blaen, ond ro’n i’n meddwl y byddwn i’n ei gwblhau e gan fy mod i ynddo fe.”