Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi gorffen yn drydydd yn ras feics y Critérium du Dauphiné.

Daw hyn er iddo fe fod mewn gwrthdrawiad yn niwedd y ras.

Ei gyd-aelod yn nhîm Ineos, Richie Porte ddaeth i’r brig wrth orffen y ras mewn 29 awr, 37 munud a phump eiliad.

Alexey Lutsenko oedd yn ail, 17 eiliad y tu ôl i’r enillydd.

Roedd Thomas 29 eiliad y tu ôl i’r enillydd yn y pen draw.

Cwympodd e 7.7km o’r llinell derfyn wrth lithro ar gornel ond fe lwyddodd i fynd yn ôl ar gefn ei feic i gwblhau’r ras.

Fe lwyddodd i ddal y pac wrth iddyn nhw fynd am y 2km olaf, gan gefnogi Porte i ennill y ras.