Mae Gareth Edwards, capten tîm pêl-droed Caernarfon, wedi cyhoeddi ei fod yn gadael y clwb ar ôl saith mlynedd.
Ymunodd e â thîm y Cofis yn 2014, ac fe aeth yn ei flaen i chwarae mewn 201 o gemau, gan ennill dau dlws cynghrair Cymru Alliance a dwy gwpan.
Fe fu’n gapten ers dau dymor.
Dywed y clwb y bydd “colled fawr ar ei ôl”.
Neges i’r cefnogwyr
Mae Gareth Edwards wedi diolch i’r cefnogwyr mewn neges sydd wedi’i chyhoeddi gan y clwb.
“Mae hi bob tro’n anodd gadael rhywbeth rydach chi’n ei garu gymaint, ond dyma’r penderfyniad cywir i mi a’m teulu bach,” meddai.
“Dw i ddim cweit yn barod i ymddeol, mae bywyd ar ôl yn yr hen goesau eto, ond mae angen i mi fod yn nes at adre’ i allu gwneud rhai o’r pethau fyddwn i’n hoffi eu gwneud hefo fy merched ifainc ar fore Sadwrn.
“Alla i ddim cweit ymroi fel sydd ei angen ar y clwb ac fel maen nhw’n ei haeddu ac roedd teithio’n pwyso arna’ i tua’r diwedd.”
Dywed ei fod “mor falch ein bod ni wedi canfod ein gilydd”, a’i fod yn “diolch o waelod calon am y ffordd y gwnaethoch chi fy nghymryd i mewn fel un ohonoch chi”.
“Ddaru ni ddod mor agos at Ewrop a bydda i bob amser yn difaru hynny ond dw i’n gadael y clwb mewn lle gwell nag y ges i fo, a gobeithio i mi chwarae rhan fach yn hynny,” meddai wedyn.
‘Diolch’
“Rydan ni am ddiolch i Gaz am ei ymroddiad a’i broffesiynoldeb,” meddai’r clwb.
“Ar y cae ac oddi arno yn ystod ei saith mlynedd efo ni, ac rydan ni’n dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.
“Diolch yn fawr iawn am bopeth Gareth!”