Mae Neco Williams wedi datgelu ei fod e wedi bod yn ymarfer mwy gyda Chlwb Pêl-droed Lerpwl wrth geisio ennill ei le yn y tîm er mwyn profi ei hun i Gymru cyn yr Ewros.

Mae carfan Cymru’n gadael am Baku heddiw (dydd Llun, Mehefin 7), wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn (Mehefin 12).

Ond fe fu’r cefnwr de ifanc yn aros yn amyneddgar am gyfle yn nhîm Lerpwl, lle mae’r Sais Trent Alexander-Arnold wedi bod yn chwarae’n rheolaidd ers dechrau’r flwyddyn.

Mae Williams wedi chwarae mwy o gemau dros ei wlad (pump) na’i glwb (pedair) ers dechrau 2021, ac roedd e’n dechrau gofidio am ei ffitrwydd i’r fath raddau nes ei fod e wedi gofyn am sesiynau ychwanegol ar gae ymarfer Lerpwl.

“Os nad ydych chi wedi chwarae cymaint o bêl-droed, yna mae’n rhaid i chi edrych ar ôl eich corff yn nhermau gwneud mwy wrth ymarfer, dod i mewn ar eich diwrnodau i ffwrdd a gwneud mwy o redeg,” meddai.

“Dyna’n union dw i wedi bod yn ei wneud.

“Allwch chi ddim jyst dibynnu ar eich clwb i geisio cael eich ffitrwydd os nad ydych chi’n chwarae pêl-droed yn rheolaidd.

“Ro’n i’n gwybod fod gen i gyfle mawr i ennill fy lle yn y garfan [genedlaethol] ac os oeddwn i am gael fy ffitrwydd i’r lefel uchaf, yna roedd angen i fi wneud mwy.

“Roedd angen i fi redeg ar ôl ymarfer neu gemau a dyna dw i wedi bod yn ei wneud.

“Gobeithio nad yw fy ffitrwydd yn rhy ddrwg.”

Neco Williams v Xherdan Shaqiri

Gallai’r Cymro herio un o’i gyd-chwaraewyr yn Lerpwl, Xherdan Shaqiri, yng ngêm agoriadol yr Ewros, ac mae’n dweud bod y ddau wedi bod y naill wedi bod yn tynnu coes y llall “ers rhai misoedd”.

“Rydyn ni hefyd wedi cael Ozan [Kabak] i Dwrci hefyd, felly mae’r tri ohonon ni wedi bod yn siarad â’n gilydd am hynny,” meddai.

“Mae haf mawr o’n blaenau, a [mae’n] gamp enfawr i fod yno.

“Fel bachgen bach, rydych chi bob amser yn breuddwydio am chwarae yn un o gystadlaethau mwya’r byd.”

Mae’n dweud iddo gael ei ysbrydoli gan garfan 2016 wrth iddyn nhw gyrraedd rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth yn Ffrainc.

“Dw i’n cofio gwylio Ewro 2016 fel tasai hi’n ddoe, a phob tro ro’n i’n gweld Cymru’n sgorio neu’n ennill, fe ges i groen gwydd,” meddai.

“Dywedais i wrthyf fi fy hun os ydw i’n parhau i ddatblygu a gwella fel chwaraewr, yna roedd hi’n bosib y gallwn i ennill fy lle yn y garfan ar gyfer Ewro 2020.

“Dw i’n ymarfer gyda rhai o’r chwaraewyr gorau yn y byd bob dydd ac mae hynny, 100%, yn mynd i fy natblygu ac fy aeddfedu fel chwaraewr.”