Fel arbenigwr ar gemau undydd, mae’r cricedwr Colin Ingram wedi hen arfer â theithio’r byd i hel ei ffortiwn, ac mae e wedi dychwelyd i Forgannwg fel chwaraewr tramor ar gyfer cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast y tymor hwn.
Bydd e hefyd ar gael fel eilydd i’r Awstraliad Marnus Labuschagne mewn gemau 50 pelawd a’r Bencampwriaeth pe bai hwnnw’n cael ei alw i’r garfan genedlaethol ar unrhyw adeg yn ystod y tymor.
Mewn cyfweliad arbennig â golwg360, mae e wedi bod yn trafod bywyd yn ystod y cyfnod clo a cheisio ennill arian wrth deithio i wahanol gystadlaethau ym mhedwar ban y byd, yn ogystal â’r cysur sydd i’w gael o ddychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod o gwarantîn ym maes awyr Heathrow yn ddiweddar.
Allwch chi ddisgrifio’r profiad o fynd i gwarantîn?
Fe wnes i’r cyfnod cwarantîn yn Nherfynfa 5 ym maes awyr Heathrow! Yn syml, fe gymerodd 14 diwrnod o’r adeg wnes i adael fy nghartref [yn Ne Affrica] i gyrraedd yma. Dydy teithio ddim mor hawdd ag yr oedd e’n arfer bod, ond dw i’n ddiolchgar o gael bod yma a chael bwrw iddi i chwarae rhywfaint o griced gyda Morgannwg. Roedd 11 noson i gyd mewn yn fy ystafell, felly 14 diwrnod ar y cyfan [gyda’r teithio], ond 11 noson yn fy ystafell yn y gwesty. Dydy hi ddim yn broses hawdd i fynd drwyddi, ond dw i wedi ei gwneud hi sawl gwaith erbyn hyn, ond dydy hi byth yn mynd yn haws. Ond dw i’n falch o fod wedi dod drwyddi ac i gael mynd allan ar y cae eto.
Sut mae ymdopi’n seicolegol â’r profiad?
Mae’n dipyn o lanw a thrai! Dydy e ddim yn rhywbeth y gallwch chi gynllunio ar ei gyfer e. Hynny yw, gallwch chi geisio creu strwythur ar gyfer y dydd. Dw i’n credu mai dyna wnes i drio’i wneud, i ychwanegu pethau i mewn a cheisio sicrhau eich bod chi’n paratoi oherwydd, ar ôl ei wneud e sawl gwaith, dydy e ddim yn rhywbeth y gallwch chi fynd yn syth i mewn iddo a disgwyl ei fod e’n mynd i fynd yn iawn.
Dyma’r trydydd neu’r pedwerydd tro nawr. Roedd pethau i fyny ac i lawr. Rydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau drwg fel unrhyw un arall, ond i fi, roedd yr ysfa i ddychwelyd i Forgannwg a chael chwarae eto’n werthchweil. Fe ges i ddiwrnodau gwael fel y byddai unrhyw un, dw i’n siŵr, ond dw i’n falch o gael bod allan nawr.
Allwch chi ddim mynd yn gaeth i amser o flaen y sgrîn. Yn y pen draw, rydych chi’n dechrau diflasu wrth wylio’r teledu drwy’r dydd! Ro’n i’n ffodus o ran cwarantîn yn y Deyrnas Unedig, rydych chi’n cael mynd allan am awr bob dydd i gerdded o amgylch y maes parcio ac yn y blaen, felly wnes i rywfaint o loncian, rhedeg a chadw’n heini ac fe wnes i drio gwneud hynny gymaint â phosib, mewn gwirionedd. Fe wnes i ddarllen llyfr neu ddau, chwarae rhywfaint ar y PlayStation – sy’n wahanol iawn i’r arfer i fi! – gwylio tipyn o Netflix… Felly rydych chi’n dod drwyddi yn y pen draw.
Sut fyddwch chi’n edrych yn ôl ar y profiad?
Ar hyn o bryd, mae’n heriol i lawer o bobol drwy gydol bywyd mewn swigen ond yr holl broses hefyd. Roedd jyst cael hediad draw yma’n dipyn o straen. Gyda gwledydd yn mynd ar y rhestr goch, y rhestr oren ac yn y blaen, mae’r sefyllfa’n newid o hyd. Fe ges i hediad yr wythnos gynt drwy Istanbul yn Nhwrci, ac aeth y fan honno ar y rhestr goch felly yn sydyn iawn, rhaid i chi frwydro am le a dim ond hyn a hyn o seddi sydd ar gael felly mae teithio’n golygu tipyn mwy o straen ond mae’n nodweddiadol o’r cyfnod yma a does neb yn ei chael hi’n hawdd ar hyn o bryd. Ond mae yna lygedyn o obaith.
Ar ôl hynny i gyd, pa mor braf yw cael dychwelyd i Gymru ac i Forgannwg?
Dydy hi ddim yn gyfrinach fy mod i wedi bod eisiau aros gyda’r clwb yn barhaol dros y blynyddoedd diwethaf fel bod modd i fy nheulu ymgartrefu yma drwy gydol y flwyddyn hefyd. Dydy hynny ddim yn gyfrinach. Mae’r materion fisa gawson ni wedi bod yn anodd, ynghyd â Brexit. Ond yn sicr, pe bai cyfle i wneud unrhyw beth arall [chwarae yn y Bencampwriaeth], byddwn i’n gafael yn y cyfle hwnnw â’r ddwy law. Ro’n i’n rhyw hanner disgwyl i Marnus [Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg] fod i ffwrdd nawr [gydag Awstralia], felly ro’n i’n meddwl y byddai cyfle am gemau fformat hir. Ar un adeg, do’n i ddim yn gwybod. Dim ond saith lle oedd ar gael ar gyfer y Can Pelen felly ro’n i’n meddwl y byddwn i yma ar gyfer y gystadleuaeth 50 pelawd. Ro’n i’n 100% yn gyfforddus gyda hynny a dw i’n credu, mewn ffordd, dw i’n gobeithio y galla i chwarae rhan fwy dros y blynyddoedd i ddod.
Wrth yrru dros y bont a dod i mewn i Gymru, fe ges i deimlad braf iawn o fod yn ôl. Dywedais i sawl blwyddyn yn ôl, dyma fy nghartref ysbrydol yn nhermau criced nawr felly roedd hi’n wych cael ymuno â’r bois a dod i’r stadiwm ar ddiwrnod braf.
Dywedais i wrth Matt [Maynard, y prif hyfforddwr] wrth wylio hanner awr fach cyn cinio fy mod i’n teimlo’n fwy cartrefol o lawer yn barod, felly dw i’n edrych ymlaen at yr her o gael mynd yn ôl ar y cae a gobeithio perfformio’n dda.
Byddwch chi’n chwarae i’r Oval Invincibles yn y Can Pelen y tymor hwn, ar ôl cyfnod digon anodd yn y Pakistan Super League yn sgil Covid-19…
Dim ond saith lle oedd ar gael pan es i i mewn i’r drafft bach, a do’n i ddim yn disgwyl cael fy newis. Ond bydda i gyda’r Oval Invincibles.
Es i i Bacistan, lle’r oedden ni yng nghanol y Pakistan Super League pan gawson ni achosion sydyn a chafodd pawb eu hanfon adref. Roedd gyda ni ambell un oedd wedi gorfod aros ar ôl am 14 diwrnod. Felly mae wedi bod yn anodd iawn ar bawb ond fel dw i’n dweud, mewn ffordd, mae’n eich gwneud chi’n ddiolchgar ac rydych chi’n teimlo’n ffodus o gael parhau i chwarae ac i fod yn ôl yma [gyda Morgannwg].
Dydych chi ddim wedi bod yma ers 2019. Sut olwg sydd ar y garfan erbyn hyn?
Mae’n edrych fel un o’n timau mwyaf cytbwys ni dros y blynyddoedd diwethaf, a dw i’n credu mai un o’r pethau dw i’n hoff o’i weld yw fod ein bowlio ni’n dda yn y Bencampwriaeth. Mae mwy o fowlwyr sêm yn cystadlu am lefydd, sy’n beth da.
Ond dydy criced ddim yn cael ei chwarae ar bapur. Dw i’n dweud hyn yn gwbl onest, rydyn ni wedi cael fformat da yma yn nhermau’r ffordd rydyn ni’n chwarae ein criced T20. Ddwy flynedd yn ôl pan ro’n i yma, aeth pethau ddim yn dda iawn ond nid oherwydd y fformat na’r ymdrech. Wnaeth ambell un ohonon ni ddim rhoi ein dwylo i fyny, felly dw i’n edrych ymlaen i weld beth mae’r tîm yn gallu ei wneud. Ar bapur, mae’n gytbwys iawn, mae’n gystadleuol iawn, mae cryfder yn y batio’n dod drwodd hefyd, yn enwedig gyda rhywun fel David Lloyd yn chwarae’n hyfryd y tymor hwn, felly dw i’n credu ei fod yn gyfnod cyffrous.
Ble ydych chi’n gweld eich hun yn batio?
Hoffwn i fatio rhif tri bob tro. Pan wnes i ymuno â Morgannwg gyntaf, agorwr oeddwn i ac mae wedi bod yn eithaf anodd i fi dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf oherwydd dw i wedi bod mewn sawl cystadleuaeth yn batio rhif pump, weithiau chwech, sy’n safle arbenigol a bod yn onest. Mae gyda fi barch o’r newydd at fois sy’n batio i lawr y rhestr oherwydd mae’n waith anodd ac mae sefyllfa’r gêm yn penderfynu sut rydych chi’n chwarae. Ond yn y tri uchaf, rydych chi’n cael chwarae eich gêm eich hun a gorfodi’ch hun ar y gêm a dw i wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud hynny. Mae gyda fi dipyn o hyder wrth wneud hynny. P’un a fydda i’n gallu gwneud hynny gyda Marnus yma hefyd, bydd rhaid i ni weld. Dwi ddim wedi cael y sgwrs honno eto ond gyda Marnus fel rhywun dawnus wrth ddod i mewn yn gynnar a batio drwodd, mae’n siŵr y byddwn ni’n cystadlu ar gyfer safle rhif tri. Ond fe gawn ni weld sut mae’n mynd.
Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i gemau. Sut brofiad fydd hynny ar ôl iddyn nhw fod i ffwrdd cyhyd?
Dw i’n credu ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi [chwarae o flaen torfeydd] yn fwy nawr. Fe fu’n eithaf anodd dros y cyfnod diwethaf yma. Mewn unrhyw chwaraeon, p’un a ydych chi’n gwylio pêl-droed ar y teledu neu beth bynnag, fe fu’n anodd peidio â chael y gefnogaeth i mewn gyda chi, felly faint bynnag fydd yn cael dod i mewn yn y pen draw, bydd hi’n wych cael rhannu’r profiad unwaith eto gyda’r dorf a’r cefnogwyr, ac mae’n rhywbeth dw i’n edrych ymlaen yn fawr ato.
Ro’n i’n ffodus iawn yn y Big Bash [cystadleuaeth ugain pelawd Awstralia] o ran eu system gwarantîn ar ddechrau’r ymlediad, fod ganddyn nhw dorfeydd i mewn ac mae ambell stadiwm yn fawr iawn felly hyd yn oed gyda 40% o’r dorf yno, roedd yn nifer sylweddol ac roedd hynny’n wych. Roedd pawb yn gwerthfawrogi hynny, dw i’n meddwl. Ar yr adeg honno yn Awstralia, roedden nhw’n byw yn eu swigen fach eu hunain oherwydd, yng ngweddill y byd, roedd pethau’n anodd iawn ond roedden nhw wedi llwyddo i gael popeth o dan reolaeth. Ond dwi’n sicr yn gwybod ei bod hi’n braf cael chwarae o flaen torf eto.
Oes gwell gyda chi chwarae o flaen torf nag mewn stadiwm sy’n wag, felly?
Mae’n ddiddorol oherwydd mae personliaethau gwahanol a’r ffordd maen nhw’n chwarae’r gêm yn golygu ei fod e wedi eu heffeithio nhw mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai bois wedi cael eu heffeithio’n fawr, maen nhw’n hoffi dangos eu hunain ac yn mwynhau chwarae ar y llwyfan mawr o flaen torf. I fi’n bersonol, dw i ddim yn meddwl fod cymaint â hynny o wahaniaeth. Dw i jyst yn trio bwrw’r bêl ran fwya’r amser! Felly dw i’n canolbwyntio ar yr hyn dw i’n ei wneud a dydy hi ddim wedi gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth i fi. Rydych chi’n dod yn gyfarwydd â’r llwyfan mawr ac rydych chi eisiau perfformio o flaen pobol felly dw i’n sicr yn gwybod fod llawer o’r bois wedi gweld eisiau hynny.
- Bydd ymgyrch Morgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yn dechrau wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerloyw i Erddi Sophia yng Nghaerdydd nos Iau (Mehefin 10), gyda’r belen gyntaf yn cael ei bowlio am 6.30yh.