Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi dewis carfan sy’n gymysgedd o brofiad ac ieuenctid ar gyfer tair gêm gartref yn erbyn Canada a’r Ariannin fis nesaf.

Fe fydd gemau’r haf yn gyfle arall i enillwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 2023.

Mae Jonathan Davies wedi’i enwi’n gapten ar y garfan, rôl y gwnaeth ei chymryd yn ystod y gêm yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019.

Newyddion da ar ôl siomedigaeth

“Mae’n siomedig, fel y byddai unrhyw un,” meddai Wayne Pivac am fethiant Jonathan Davies i gael ei gynnwys yng ngharfan y Llewod.

“Ei oedran ef dyma ei gyfle olaf i chwarae i’r Llewod.”

“[Ond] dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd o gwmpas y gornel. Mae un newid eisoes wedi bod [cafodd prop Bryste Kyle Sinckler ei alw i fyny gan Gatland ddydd Sul], felly pwy a ŵyr, gallai fod mwy gyda faint o gemau sydd i’w chwarae.

“Yn sicr, mae’n siomedig, ond mae wrth ei fodd yn gwisgo crys Cymru.

“Pan wnes i ei ffonio ddoe, dyma’r alwad mae chwaraewyr yn ei ofni o fewn 24 awr i enwi carfan. Roedd yn meddwl ei fod yn cael ei adael allan, dw i’n meddwl!

“Yn sicr, roedd wrth ei fodd gyda chael y cyfle i arwain y tîm

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd, ac mae’n edrych ymlaen at ymgymryd â’r rôl honno.”

Enwau newydd ac enwau’n dychwelyd

Ymhlith y chwaraewyr newydd mae Gareth Thomas, sy’n chwarae i dîm dan 20 oed Cymru.

Yn chwarae yn yr ail reng mae Ben Carter, sy’n chwarae i’r Dreigiau, ac mae’n ymuno ag Adam Beard, Cory Hill a Will Rowlands.

“Dw i’n meddwl bod Ben Carter yn chwaraewr ifanc gwych,” meddai Pivac

“I ddyn ifanc sydd wedi camu i dîm y Dreigiau, mae wedi ennill ei le yn y tîm ac mae Dean (cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau Dean Ryan) wedi gweithio’n dda iawn gydag ef.

“Mae wedi dangos bod ganddo ddyfodol disglair iawn yn y gêm.“Pan rwyt ti’n ar chwaraewr i olynu Alun Wyn yn y tymor hir, dw i’n credu ei fod yn ddyn ifanc sydd wedi dangos yr holl gymwysterau cywir.”

Bydd Ross Moriarty yn dychwelyd i’r garfan wedi anaf, ac mae Josh Turnbull, sydd heb chwarae dros Gymru ers 2018, wedi’i ddewis hefyd.

Yn ymuno â nhw yn y rheng ôl mae Taine Basham, sydd heb chwarae dros ei wlad eto er ei fod wedi cael lle yn y garfan o’r blaen.

Mae Callum Sheedy a Jarrod Evans wedi cael eu henwi fel maswyr, a Kieran Hardy, Tomos Williams, a Rhodri Williams yn fewnwyr.

Dau arall fydd yn gobeithio ennill eu capiau cyntaf yw Tom Rogers, a Ben Thomas, cyn-ganolwr y tîm dan 20.

Bydd Leigh Halfpenny yn gobeithio ennill ei ganfed gap rhyngwladol yn ystod y gemau hefyd – mae ganddo fe 95 dros Gymru a phedwar dros y Llewod.

“Edrych ymlaen”

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at yr haf, gweithio gyda’r garfan hon a’r tri phrawf cartref y byddwn ni’n eu hwynebu,” meddai Wayne Pivac.

“Mae’n wych ein bod ni’n gallu dewis pum chwaraewr sydd heb gapiau yn y garfan.

“Mae’n gyfle, fel gemau’r hydref y llynedd, i ddod â’r chwaraewyr hyn i mewn i’r sefyllfa, a dangos paratoadau gemau prawf iddyn nhw, a gemau prawf mewn rhai achosion.

“Dyw’r haf yma ddim ar gyfer chwaraewyr heb gapiau yn unig, ond ar gyfer chwaraewyr rhyngwladol er mwyn iddyn nhw gael mwy o brofiad hefyd.

“Mae’n gyfle iddyn nhw ddechrau mwy [o gemau], ymddangos mewn mwy o gemau, a chamu i mewn i rolau arweinyddol, felly bydd yn gyfnod pwysig i ni.

“Bydd gennym ni wersyll hyfforddi yng ngogledd Cymru cyn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer ein tair gêm, felly mae’n gyfnod mawr o amser gyda’n gilydd.

“Tra bod llwyddiant y Chwe Gwlad yn fyw ym meddyliau nifer o bobol, mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i adeiladu dyfnder, ac ein gêm, wrth barhau tuag at Gwpan Rygbi’r Byd 2023.”

Blaenwyr (capiau mewn cromfachau):

Rhodri Jones (Gweilch, 20), Nicky Smith (Gweilch, 39), Gareth Thomas (Gweilch, dim), Elliot Dee (Dreigiau, 37), Ryan Elias (Scarlets, 17), Sam Parry (Gweilch, 4), Leon Brown (Dreigiau, 17), Tomas Francis (Caerwysg, 57), Dillon Lewis (Rygbi Caerdydd, 28), Adam Beard (Gweilch, 25), Ben Carter (Dreigiau, dim), Cory Hill (Rygbi Caerdydd, 32), Will Rowlands (Wasps, 7), Taine Basham (Dreigiau, dim), James Botham (Rygbi Caerdydd, 6), Ross Moriarty (Dreigiau, 45), Josh Navidi (Rygbi Caerdydd, 28), Josh Turnbull (Rygbi Caerdydd, 10), Aaron Wainwright (Dreigiau, 29)

Olwyr:

Kieran Hardy (Scarlets, 4), Tomos Williams (Rygbi Caerdydd, 22), Rhodri Williams (Dreigiau, 3), Callum Sheedy (Bryste, 9), Jarrod Evans (Rygbi Caerdydd, 6), Jonathan Davies (Scarlets, capten, 88), Willis Halaholo (Rygbi Caerdydd, 4), Nick Tompkins (Saraseniaid, 10), Ben Thomas (Rygbi Caerdydd, dim), Hallam Amos (Rygbi Caerdydd, 23), Leigh Halfpenny (Scarlets, 95), Jonah Holmes (Dreigiau, 5), Owen Lane (Rygbi Caerdydd, 2), Ioan Lloyd (Bryste, 2), Tom Rogers (Scarlets, dim)