Mae carfan Cymru wedi gadael Caerdydd ac yn teithio i Baku, Azerbaijan, ar gyfer Ewro 2020.

Bydd Cymru’n cystadlu yng Ngrŵp A ochr yn ochr â’r Eidal, y Swistir a Thwrci.

Bydd carfan Robert Page yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn y Swistir yn Baku ddydd Sadwrn (Mehefin 12), cyn chwarae yn erbyn Twrci ym mhrifddinas Azerbaijan bedwar diwrnod yn ddiweddarach, ac yna yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ar Fehefin 20.

Fe wnaeth Cymru oleuo Ewro 2016 yn Ffrainc bum mlynedd yn ôl gan fod y genedl leiaf yn ôl poblogaeth i gyrraedd y rownd gyn-derfynol cyn colli yn erbyn Portiwgal, y pencampwyr yn y pen draw.

Mae wyth o’r garfan honno yn teithio y tro yma – Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ben Davies, Chris Gunter, Danny Ward, Joe Allen, Jonny Williams a Wayne Hennessey – gydag 19 o’r 26 chwaraewr â 25 cap neu lai.

Mae saith o’r garfan â llai na deg o gapiau ac mae Rubin Colwill wedi chwarae dim ond 191 o funudau o bêl-droed ar y lefel uchaf ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng Nghaerdydd fis Chwefror.

Bydd Robert Page yn gobeithio y bydd ei dîm yn dechrau’r twrnament ar y droed flaen drwy drechu’r Swistir a chreu momentwm – rhywbeth sydd wastad yn bwysig i dimau mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Colli o dair gôl i ddim oedd hanes Cymru wrth iddyn nhw wynebu Ffrainc nos Fercher (Mehefin 2) yn eu gêm baratoadol gyntaf cyn yr Ewros.

A methodd Cymru â gorffen eu paratoadau ar gyfer Ewro 2020 ar nodyn uchel wrth i Albania ddal eu tir mewn gêm ddi-sgôr yng Nghaerdydd nos Sadwrn (Mehefin 5).

Cyrraedd Baku

Ac mae’r Gymdeithas Bêl-droed bellach wedi cyhoeddi fideo yn dangos y garfan yn cyrraedd y gwesty yn Baku.