Ffrainc 3–0 Cymru                                                       

Colli o dair gôl i ddim fu hanes Cymru wrth iddynt wynebu Ffrainc nos Fercher yn eu gêm baratoadol gyntaf cyn yr Ewros.

Chwaraewyd y gêm heb dorf yn yr Allianz Riviera yn Nice ac er i Gymru ddechrau’n addawol, cafodd y gêm fel cystadleuaeth ei difetha i raddau helaeth gan gerdyn coch dadleuol i Neco Williams hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Roedd yn ymarfer gwerthfawr wedi hynny ond nid oedd unrhyw amheuaeth am y canlyniad wrth i goliau Kylian Mbappe, Antoine Griezmann ac Ousmane Dembele sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.

Y tîm

Dewisodd Rob Page un ar ddeg cryf i ddechrau’r gêm yn erbyn yr ail dîm gorau yn y byd. Bydd disgwyl i saith neu wyth ohonynt ddechrau yn erbyn y Swistir. Yr unig rai a oedd yn chwarae am eu llefydd o bosib a oedd Danny Ward, Chris Gunter, Joe Morrell a Harry Wilson.

Os nad oedd llawer i’w drafod o ran y dewisiadau, roedd siâp y tîm yn ychydig o syndod. Mae Cymru wedi ffafrio tri yn y cefn gydag ôl-asgellwyr yn ddiweddar a dyna oedd rhywun yn ei ddisgwyl yn y gêm hon. Tipyn o sioc a oedd gweld Neco Williams yn un o dri yng nghanol cae felly wrth i Page arbrofi gyda siâp 4-3-3.

Dangosodd Didier Deschamps barch mawr at Gymru gyda’i ddewis ef hefyd; tîm cyntaf Ffrainc i bob pwrpas. Dim ond dau newid o’r un ar ddeg a ddechreuodd eu gêm gystadleuol ddiwethaf, a’r profiadol Karim Benzema a oedd un o’r rheiny, yn chwarae i’w wlad am y tro cyntaf ers 2015!

Dechrau da

Os oedd Ward yn chwarae am ei le yn y gôl yn erbyn y Swistir, fe wnaeth bopeth yn iawn gan ddechrau gydag arbediad da o beniad cynnar Benzema. Bu’n rhaid i Hugo Lloris fod yn effro yn y pen arall hefyd i atal ergyd Dan James o ongl dynn.

Arbediad da arall gan Ward a arweiniodd at drobwynt y gêm hanner ffordd trwy’r hanner. Gwnaeth y golwr yn dda i atal peniad Paul Pogba ond adlamodd y bêl i Benzema ac ergydiodd yntau yn erbyn llaw Williams.

Peltan o ergyd o ddwy lath ond y dyfarnwr yn penderfynu, ar ôl ymyrraeth VAR, ei bod yn deilwng o gic o’r smotyn!

Er yn hallt, gellid deall y penderfyniad hwnnw, ond roedd hyd yn oed chwaraewyr Ffrainc yn synnu gweld chwaraewr Lerpwl yn cael ei anfon o’r cae. Mae’r rheolau’n nodi bod rhaid i drosedd sydd yn atal gôl fod yn un fwriadol i haeddu cerdyn coch ac felly fe achosodd y penderfyniad dipyn o benbleth i bawb, neb yn fwy na Dan James wedi’r gêm.

Arbediad arall

Ni wnaeth y llif ddorau agor yn syth diolch i arbediad gwych gan Ward o gic o’r smotyn Benzema. Tarodd y blaenwr hi’n dda ond plymiodd Ward yn isel i’w dde i’w hatal.

Roedd gôl yn anorfod serch hynny ac fe ddaeth hi ddeuddeg munud cyn yr egwyl.

Roedd Ward yn anffodus y tro hwn. Llwyddodd i arbed ergyd Adrien Rabiot er gwaethaf gwyriad mawr oddi ar Griezmann ond adlamodd y bêl yn garedig i Mbappe a gwnaeth yntau’r gweddill.

Sioe Griezmann

Y tro diwethaf i Gymru chwarae Ffrainc, yn Nhachwedd 2017, Griezmann a redodd y sioe, ac roedd yng nghanol popeth unwaith eto bedair blynedd yn ddiweddarach.

Mae’n chwaraewr gosgeiddig, hyfryd i’w wylio, a’i gôl yn gynnar yn yr ail hanner a oedd uchafbwynt y gêm hon. Sodlodd Mbappe y bêl i’w lwybr ar ochr y cwrt cosbi ac fe grymanodd yntau ergyd hyfryd i’r gornel uchaf o ugain llath.

Aaron Ramsey

Roedd deg dyn Cymru yn ei chael hi’n anodd cael y bêl i hanner Ffrainc heb sôn am greu cyfleoedd ond fe wellodd pethau fymryn wedi i Aaron Ramsey ddod i’r cae. Ei bas dreiddgar ef a arweiniodd at ail hanner cyfle’r gêm i James ond, fel y tro cyntaf, cael ei atal gan Lloris a wnaeth.

Byddai dwy gôl i ddim wedi bod yn ganlyniad digon teg ond os oedd un chwaraewr mewn crys glas yn haeddu sgorio, Benzema a oedd hwnnw. A bu bron iddo gael ei haeddiant gyda deuddeg munud yn weddill ond tarodd ei ergyd yn erbyn y postyn cyn adlamu i roi gôl syml ar blât i’r eilydd, Dembele.

Roedd hi’n noson i’w chofio i Rubin Colwill er gwaethaf y canlyniad. Daeth y llanc ifanc 19 oed i’r cae fel eilydd am y munudau olaf, ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad.

Rubin Colwill

Albania

Albania a fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru yn y gêm baratoadol olaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.

Bydd sawl newid heb os ar gyfer y gêm honno, gyda mwy o funudau i Ramsey a Ben Davies yn flaenoriaeth ynghyd â phrofi ffitrwydd Ethan Ampadu yn dilyn anaf.

*

Ffrainc

Tîm: Lloris, Hernandez (Digne 45’), Pavard (Kounde 45’), Kimpembe, Verane, Tolisso (Sissoko 63’), Rabiot, Pogba (Coman 63’), Griezmann (Ben Yedder 84’), Benzema, Mbappe (Dembele 73’)

Goliau: Mbappe 34’, Griezmann 47’, Dembele 79’

Cerdyn Melyn: Verane 75’

Cymru

Tîm: Ward, Roberts, Gunter, Rodon, Mepham (Davies 59’), Morrell (Colwill 83’), Allen (Levitt 59’), N. Williams, Wilson (Ramsey 59’), James (Brooks 73’), Bale (Moore 59’)

Cerdyn Coch: N. Williams 25’