Mae Gwennan Harries yn dweud ei bod hi’n bwysig bod Cymru’n gwarchod rhai chwaraewyr cyn i dwrnament Ewro 2020 ddechrau, er ei bod hi’n cydnabod y bydd angen “tîm cryf” i herio Ffrainc ac y bydd y gêm yn dangos “lle yden ni” cyn Ewro 2020.
Bydd Cymru’n herio pencampwyr y byd Ffrainc yn Nice am 8:05 heno yn eu gêm gyfeillgar gyntaf wrth baratoi ar gyfer y twrnament.
Mae Rob Page, rheolwr dros dro Cymru, wedi dweud ei fod yn bwriadu monitro llwyth gwaith ei chwaraewyr cyn eu gêm agoriadol yn erbyn y Swistir yn Baku ar 12 Mehefin.
Ac mae Gwennan Harries yn cydnabod bod debyg bod hynny yn beth call, gydag adroddiadau’n awgrymu nad yw Ben Davies yn 100%, tra bod Aaron Ramsey wedi cael tymor yn llawn anafiadau gydag Juventus, a Joe Allen hefyd ar y ffordd nôl o anaf.
Fe wnaeth Page enwi ei garfan 26 dyn ar gyfer Ewro 2020 ddydd Sul (Mai 30).
Am dro ?
Pre-match stroll along the promenade in Nice ??
6 hours til KO!#FRAWAL | #TogetherStronger pic.twitter.com/Cw5NJ67eMh
— Wales ??????? (@Cymru) June 2, 2021
Page: “Canolbwyntio ar y Swistir”
“Nid yw’n mynd i fod yr un 11 [fydd yn herio’r Swistir],” meddai Rob Page.
“Mae gennym chwaraewyr sydd angen munudau ac mae gennym chwaraewyr nad ydynt yn hollol barod, felly mae angen i ni reoli hynny.
“Bydd rhai o’r chwaraewyr yn chwarae rhywfaint o funudau er mwyn helpu eu hadferiad, gyda’r gobaith o’u cael yn holliach.
“Rydym yn canolbwyntio ar y Swistir, gêm gyntaf y twrnament, a bydd y gemau cyfeillgar hyn yn ein helpu i gael ein 11 gorau allan ar y cae hwnnw.”
Ffrainc ymhlith y ffefrynnau
“Gallen nhw ddewis tri thîm gwahanol a chystadlu yn yr Ewros,” ychwanegodd Rob Page wrth drafod carfan Ffrainc.
“Rydych chi eisiau chwarae yn erbyn y goreuon ac maen nhw’n sicr yn perthyn i’r categori hwnnw.
“Bydd yna lot o achlysuron pan nad oes gennym ni’r bêl ond mae hynny’n rhan o’r ymarfer – rydyn ni eisiau gweld sut rydyn ni’n delio â phwysau a straen fel yna.
“Mae sut maen nhw’n pwyso yn debyg iawn i sut mae’r Swistir yn chwarae, felly un o’r rhesymau pam wnaethon ni ddewis y gêm hon yw’r tebygrwydd hynny.
“Maen nhw’n chwaraewyr o’r radd flaenaf. Mae’n mynd i fod yn brawf mawr i ni.
“Ond mae gennym chwaraewyr sydd, gyda’r bêl mewn cyfnodau pontio (transition), yn gallu brifo timau.”
‘Gwarchod chwaraewyr’
“Mae’n mynd i fod yn gêm galed, ond dw i’n hapus ein bod ni’n chwarae yn erbyn un o’r timau gorau cyn y twrnament achos wedyn cawn ni weld lle yden ni,” meddai Gwennan Harries, cyn-ymosodwr Cymru, wrth siarad â golwg360.
“Un o’r pethau mae Rob Page wedi dweud hefyd yw bod y ffordd mae Ffrainc yn chwarae yn debyg iawn i’r ffordd mae’r Swistir yn chwarae.
“Bydd hynna yn dda iawn i ni o safbwynt paratoi at y gêm gyntaf yna yn erbyn y Swistir.
“Licien i weld ni’n mynd gyda’r tîm cryf, achos ers yr Ewros diwethaf dyden ni ddim rili wedi gallu chwarae tîm gydag ein sêr ni i gyd ynddo fe.
“Dw i ddim yn meddwl bod Ben Davies cweit yna eto, felly dw i’n credu bod hi’n bwysig gwarchod rhai chwaraewyr.
“Gêm gyfeillgar ydi hon, er ei bod hi’n gêm bwysig, a dw i’n gwybod bod hi ddim yn hawdd oherwydd bod ’da ni gêm dydd Sadwrn (yn erbyn Albania) hefyd.
“Ond y gêm bwysicaf ydi wythnos i ddydd Sadwrn – mae angen buddugoliaeth yn y gêm honno er mwyn creu momentwm.
“Felly, dw i’n teimlo’n bersonol, os ydyn nhw ddim cweit 100%, mae angen gwarchod nhw.”