Daeth cadarnhad mai Mistar Urdd fydd masgot tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham y flwyddyn nesaf.

Daeth y cyhoeddiad yn ystod Eisteddfod T, a bydd Mistar Urdd yn ymuno â’r tîm ar y ffordd i’r gemau.

Daeth yr Urdd yn bartner elusennol swyddogol i Dîm Cymru ym mis Mai 2019, er mwyn ysbrydoli plant ledled Cymru i roi cynnig ar chwaraeon ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.

Gemau’r Gymanwlad Cymru sy’n gyfrifol am ddewis, paratoi ac arwain Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad a Gemau Ieuenctid y Gymanwlad.

Yn ogystal â dathlu Gemau’r Gymanwlad yn 2022, bydd y digwyddiad yn cyd-fynd â blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd, a bydd y bartneriaeth yn rhan o ddathliadau’r sefydliad.

Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru hefyd yn cynnal prosiect ymgysylltu gydag ysgolion er mwyn ysbrydoli pobol ifanc i ddangos pwysigrwydd cynwysoldeb, a sut y gall chwaraeon newid bywydau.

“Ychwanegiad gwych i’r tîm”

“Ers i’r Urdd ddod yn bartner elusennol i ni yn 2019, mae lefel y gefnogaeth a’r ymgysylltu o fewn y bartneriaeth wedi bod yn rhagorol,” meddai Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau’r Gymanwlad Cymru.

“Mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd diwylliannol a chwaraeon amrywiol i bobol ifanc Cymru.

“Gan ganolbwyntio ar chwaraeon, bydd ieuenctid heddiw yn darparu’r genhedlaeth nesaf o athletwyr Tîm Cymru.

“Mae Mistar Urdd fel masgot swyddogol cyntaf Tîm Cymru yn ychwanegiad gwych arall i’n tîm sy’n ehangu.”

‘Ysbrydoli pobol ifanc’

“Mae’n bwysig iawn i’r Urdd gael partneriaid fel Tîm Cymru oherwydd gyda’n gilydd, nid oes ffordd well o gyrraedd ac ysbrydoli pobol ifanc ym mhob cornel o Gymru,” meddai Sian Lewis, Prif Swyddog Gweithredol yr Urdd.

“Mae’n wych gweld Mistar Urdd yn ei git Tîm Cymru yn ymweld â chlybiau Urdd ac yn gweld yn genedlaethol am y tro cyntaf fel rhan o Eisteddfod T.

“Rwy’n hyderus y bydd Mistar Urdd a’n cydweithrediad â Thîm Cymru yn ysbrydoli plant a phobol ifanc ledled Cymru i fwynhau chwaraeon ac i ddilyn taith Tîm Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.”

  • Mae Golwg360 yn falch o gyflwyno canlyniadau cystadlaethau’r adran Greu yma. Mwynhewch y darllen.