Mae Gwennan Harries yn dweud bod y sylwadau sarhaus ar-lein am Casey Stoney, cyn-reolwr merched Manchester United a’r ffefryn ar gyfer swydd rheolwr dynion Wrecsam, yn gwneud iddi deimlo’n “rhwystredig”.
Daeth swydd rheolwr Wrecsam yn wag ar ôl iddyn nhw fethu â chyrraedd gemau ail-gyfle’r Gynghrair Genedlaethol yng ngêm olaf y tymor.
Penderfynodd y clwb, sydd wedi cael ei brynu gan y sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds, beidio ag adnewyddu cytundeb Dean Keates, oedd wedi bod wrth y llyw ers 2019.
Casey Stoney fyddai’r rheolwr benywaidd cyntaf ar dîm proffesiynol dynion yn y Deyrnas Unedig, pe bai’n cael ei phenodi.
Yn ystod lansiad tîm Manchester United yn 2018, fe wnaeth Casey Stoney eu harwain i dlws y Bencampwriaeth.
Gadawodd ei rôl ym mis Mai ar ôl gorffen yn bedwerydd yn Uwch Gynghrair y Merched ddau dymor yn olynol, gan golli allan ar le yng Nghynghrair y Pencampwyr o drwch blewyn y tymor diwethaf.
Mae hi wedi ymateb i’r gamdriniaeth drwy ddweud y dylai’r rhai sydd wedi gwneud sylwadau rhywiaethol fod â “chywilydd”, gan ychwanegu ei bod hi’n hapus i fod yn treulio amser gyda’i theulu ar ôl tair blynedd gyda Manchester United.
For the lovely people on here that are abusing me for even being linked with a job in the men’s game please do yourself a favour & lower your blood pressure. I am happily spending time with my family thank you ❤️if you have a daughter, sister, wife or mother you should be ashamed
— Casey Stoney MBE ? (@CaseyStoney) June 1, 2021
“Rhwystredig”
“Mae o’n rhwystredig iawn gweld sylwadau negyddol iawn, a phersonol iawn hefyd yn cael eu gwneud (am Casey Stoney) a dim byd yn cael ei wneud am y peth,” meddai Gwennan Harries, cyn-ymosodwr Cymru wrth siarad â golwg360.
“Rydyn ni wedi gweld yr un peth gyda llwyth o sylwadau hiliol ac mae angen i bethau gael eu gwneud.
“Dyw hi heb gysylltu ei hun gyda’r swydd, mae hwnna jyst yn rumour sydd wedi cael ei roi allan ac fel dywedodd hi yn y tweet nath hi roi allan, mae hi ddigon hapus yn treulio amser gyda’r teulu ar hyn o bryd, dyw hi ddim yn edrych am unrhyw swydd.
“Felly mae’r ffaith bod pobol yn ymateb i rumour dyw hi heb ei wneud yn rhwystredig, a mwy nag unrhyw beth, dyw’r bobol sydd yn gwneud sylwadau ddim hyd yn oed gydag unrhyw gefndir i gefnogi’r hyn maen nhw’n ysgrifennu.
“Dydyn nhw probably heb wylio unrhyw bêl-droed menywod, maen nhw jyst yn gweld bod hi’n fenyw ac yn mynd yn syth amdani, a dyna beth sy’n rhwystredig iawn i fi.”
‘Mae keyboard warriors yn gallu cuddio’
“Mae’r bobol yma, maen nhw jyst yn chwilio am ryw fath o ymateb,” meddai wedyn.
“Mae keyboard warriors yn gallu cuddio y tu ôl i sgrin a cheisio creu problemau a drama ac mae hwnna eto yn rhywbeth sy’n rili rhwystredig achos mae’r bobol yma yn cael i ffwrdd gyda phopeth… maen nhw’n cael get away.
“Mae angen cosbau mwy llym achos pan mae’r sylwadau yn mynd yn bersonol, fel maen nhw wedi, ac fel rydyn ni wedi gweld gymaint o weithiau gyda sylwadau erchyll hiliol ar ôl i dimau golli gemau, dydi e jyst ddim yn deg.
“Fyddech chi ddim yn gwneud hynna ar y stryd, felly pam bod e’n iawn gwneud ar-lein?
“Mae angen i fwy o waith gael ei wneud er mwyn stopio fe.”
‘Cario pwysau reputation menywod’
“Jyst achos bod Casey Stoney o bosib yn camu i mewn i gêm y dynion, dyw hynna ddim yn meddwl bod hi’n cael dyrchafiad,” meddai wedyn.
“Mae hi wedi gweithio gyda rhai o’r chwaraewyr gorau yn Lloegr, ac yn y byd.
“Bydd y fenyw gyntaf sy’n camu mewn i’r rôl yna yn cario pwysau reputation menywod yn gyffredinol achos os byddan nhw’n llwyddo… grêt a da iawn nhw.
“Ond os byddan nhw’n methu, ac os ydyn ni’n bod yn realistig mae 90% o reolwyr y dyddiau yma yn methu, wel bydd pwy bynnag yw’r person yna yn gyfrifol am yr holl fenywod o fewn y gêm achos mae pawb yn stereoteipio menywod.
“Os ydyn nhw’n methu, yna bydd pawb yn dweud ‘dyw menywod methu gwneud e felly mae e’n anodd iawn ac mae pwy bynnag sy’n cymryd y rôl gyntaf yna angen bod yn ddewr iawn achos fel dywedais i, byddan nhw’n cymryd y baich dros yr holl fenywod yn y gêm.”