Mae Tomos Williams wedi llofnodi cytundeb newydd gyda’r Gleision.

Roedd cytundeb mewnwr Cymru’n dod i ben ar ddiwedd y tymor, ac roedd cryn ddiddordeb yn ei wasanaeth.

Ond mae e wedi dilyn Jarrod Evans, Owen Lane a Willis Halaholo wrth lofnodi’r cytundeb i aros ar Barc yr Arfau.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn ystod tymor 2013-14, ac mae e wedi chwarae 102 o gemau i’r rhanbarth, gan sgorio 18 o geisiau.

Mae e wedi ennill 22 o gapiau dros Gymru.

‘Diolchgar iawn’

“Dw i’n hapus iawn i dderbyn y cytundeb newydd hwn ac i aros yng Nghaerdydd gyda llawer o fois dw i wedi dod trwodd gyda nhw,” meddai Tomos Williams.

“Mae gyda ni gryn dipyn o dalent cyffrous a llawer o botensial wrth symud ymlaen, yn enwedig gyda Dai yn ôl wrth y llyw a Matt Sherratt hefyd yn dychwelyd.

“Dw i eisiau bod yn rhan o hynny a byddai’n wych helpu’r clwb yma i herio am ragor o dlysau.

“Dw i’n ddiolchgar iawn i fod yn aros yma a dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Barc yr Arfau gyda thorfeydd yno yn y dyfodol agos.”

‘Dinistriol’

“Roedd cadw Tomos yn un pwysig iawn i ni ac rydyn ni bellach wedi llwyddo i gadw’r holl chwaraewyr roedden ni eisiau eu cadw, sy’n dyst i’r clwb yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn anodd,” meddai Dai Young, Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision.

“Mae’n golygu ein bod ni’n cynnal nerth a dyfnder yn y safle, sy’n bwysig iawn er mwyn i ni fod yn gystadleuol ac mae’n sicrhau y bydd y chwaraewyr yn parhau i herio’i gilydd.

“Rydyn ni i gyd wedi gweld pa mor ddinistriol all Tomos fod gyda’r bêl yn ei ddwylo, mae ganddo fe’r ‘x-factor’ yn sicr ac mae’n destun pryder i amddiffynfeydd ond mae ei gêm yn dda iawn ar y cyfan hefyd.

“Mae anafiadau wedi bod yn rhwystredigaeth iddo fe yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ond gyda rhediad o gemau, dim ond gwella a gwella fydd e.”