Mae Kyron Duke o Gwmbrân wedi ennill medal arian am daflu pwysau ar ddiwrnod cyntaf Pencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC yng Ngwlad Pwyl.

Sicrhaodd e’r fedal yn nosbarth F41 gyda’i dafliad gorau o 13.39 metr – ei dafliad gorau’r tymor hwn.

Bartosz Tyszkowski o Wlad Pwyl enillodd y fedal aur gyda thafliad gorau o 13.51 metr.

Aeth y fedal efydd i Niko Kappel o’r Almaen am dafliad o 13.36 metr.

Logo Golwg360

Arian i Kyron Duke

Pellter o 36.7m yn ffeinal taflu’r gwaywffon F41 yn siomi’r Cymro