Mae Kyron Duke wedi ennill medal arian wrth daflu gwaywffon yn nosbarth F41 ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC.

Aeth ei dafliad gorau 36.7 metr, wrth i Mathias Mester o’r Almaen daflu 38.69 metr.

Roedd y pellter hwn yn welliant ar ei bellter o 36.03 metr ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Lyon, lle cipiodd y fedal efydd y llynedd.

Gwnaeth Duke, sy’n dod o Gwmbrân, ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012, lle sicrhaodd berfformiad personol gorau o 38.64 metr ar ei dafliad cyntaf, gan orffen yn wythfed.

Ar ben ei fedal efydd am daflu gwaywffon yn Lyon y llynedd, enillodd fedal efydd yn y siot am dafliad o 11.64 metr, ac fe fydd e’n cystadlu yn y gystadleuaeth hon yn Abertawe nos Sadwrn.

‘Siomedig’

Wedi’r gystadleuaeth, dywedodd Kyron Duke: “Dw i’n hapus gyda fy medal ond ychydig yn siomedig gan ’mod i wedi taflu ymhellach wrth ymarfer. Wnaeth e ddim gweithio’n iawn i fi.

“Mae Mathias wedi bod ar y blaen i fi o drwch blewyn o’r diwrnod cyntaf ond dw i’n blesd gyda medal arian.

“Mae e un cam ar y blaen i fi ond fe wna i ei ddal e ryw ddiwrnod.

“Wna i barhau i ymarfer yn galed.”