Mae Rob Page, rheolwr dros dro Cymru, wedi dweud wrth gynhadledd i’r wasg bod wynebu Ffrainc, pencampwyr y byd pêl-droed, yn “sialens wych” i Gymru.

Bydd Cymru yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn y Ffrancwyr nos yfory (Mehefin 2, 8.05yh) ac Albania ddydd Sadwrn (Mehefin 5, 5 o’r gloch) wrth baratoi ar gyfer Ewro 2020.

“Mae’n sialens wych i ni,” meddai Rob Page.

“Rydyn ni’n mynd i wynebu gwrthwynebwyr tebyg i’r Swistir [gêm agoriadol Ewro 2020 Cymru ar 12 Mehefin] gyda’r ffordd maen nhw’n pwyso, felly bydd hynny’n ddefnyddiol.

“Mae’n ofyn mawr. Bydd adegau pan fydd ganddyn nhw lawer o’r bêl.

“Ond rydyn ni’n gwybod fod gennym chwaraewyr sy’n gallu eu brifo.

“Mae gennym chwaraewyr sydd angen munudau, felly efallai nad dyma’r unarddeg cychwynnol [ar gyfer Ewro 2020].”

“Dyfodol disglair” o flaen Rubin Colwill

Mae gan Rubin Colwill “ddyfodol disglair” o’i flaen, yn ôl Rob Page.

Roedd y ffaith iddo gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru yn sioc i nifer o bobol ac yntau ddim ond wedi chwarae i Gaerdydd chwech o weithiau ac erioed wedi cynrychioli ei wlad.

Ond dywed Rob Page ei fod yn “ymddiried ynddo”.

“Mae’n garfan fawr. Fe wnaethon ni fynd â 31 i Bortiwgal, roedd rhai penderfyniadau anodd i’w gwneud ac roedd rhai chwaraewyr siomedig, ond rydym yn hapus gyda’r drafft terfynol,” meddai.

“Bydd Rubin Colwill yn sioc i rai, does ganddo fe ddim cap, ond bydd yn chwaraewr ar gyfer y dyfodol.

“Mae’n dipyn o gambl ond rwy’n ymddiried ynddo.

“Mae’n fachgen hyderus ac mae ganddo ddyfodol disglair.”

Cymru’n cadw llygad ar ffitrwydd Aaron Ramsey a Ben Davies

Dywed Rob Page fod Cymru’n cadw llygad ar ffitrwydd Aaron Ramsey a Ben Davies, ac nad yw’n bwriadu gwthio’r ddau nes eu bod nhw’n holliach.

“Dydy Aaron ddim wedi chwarae’r nifer o funudau y byddai wedi’u hoffi yn yr Eidal, felly mae’n rhaid i ni gydymdeimlo,” meddai.

“Allwn ni ddim ei wthio i ddechrau, yr hyn sydd ei angen arnom yw cael y garfan yn barod ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn y Swistir.

“Mae Ben Davies yn un arall.

“Mae’n ymwneud â synnwyr cyffredin, mae gennym gynllun ar waith.”

Egluro absenoldeb Hal Robson-Kanu

Mae Robert Page yn gwadu bod hepgor Hal Robson-Kanu o garfan Cymru ar gyfer Ewro 2020 yn gysylltiedig â’r digwyddiad ym mis Mawrth pan gafodd ei anfon adref o garfan o Gymru am “dorri protocolau”.

“Dim byd i’w wneud â mis Mawrth o gwbl,” meddai.

“Cafodd Tyler [Roberts] ei gynnwys yn y garfan ac roedd yn rhan o [yn yr un digwyddiad] ym mis Mawrth.

“Mae record Kieffer Moore yn siarad drosto’i hun ar lefel ryngwladol, mae gennym Tyler yn chwarae’n rheolaidd i Leeds.

“Mae gennym Aaron Ramsey, Harry Wilson… Mae gennym linell ymosodol gref iawn, felly dyna’r cyfiawnhad dros eu dewis.”

Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer yr Ewros

Rubin Colwill, chwaraewr canol cae 19 oed Caerdydd, wedi’i gynnwys ar ôl chwe gêm yn unig i’w glwb

Rubin Colwill yn “pinsio fy hun” ar ôl “blwyddyn wallgof”

Mae’r llanc 19 oed wedi cael ei enwi yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf