Mae’r Gymraes Jade Jones wedi’i henwi yng ngharfan Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo.

Bydd hi’n arwain ymdrechion y garfan taekwondo wrth iddi fynd am drydedd medal aur yn olynol yn y categori -57kg yn dilyn ei llwyddiant yn Llundain yn 2012 a Rio de Janeiro yn 2016.

Mae Bianca Walkden a Mahama Cho hefyd yn y garfan ar ôl i’r tair gael cadarnhad o’u llefydd gan Gymdeithas Olympaidd Prydain, ochr yn ochr â Bradly Sinden a Lauren Williams.

Dyma’r nifer fwyaf o gystadleuwyr taekwondo Prydeinig erioed yn y Gemau Olympaidd.

Jade Jones oedd y cystadleuydd cyntaf dros Brydain i ennill medal aur Olympaidd mewn taekwondo, a gwnaeth ei llwyddiant hi ysbrydoli Lauren Williams i ddechrau cystadlu yn y gamp ar draul cicfocsio, ac aeth yn ei blaen i gipio’r aur Ewropeaidd yn 2016 a 2018.